{"product_id":"castell-caerfyrddin-olrhain-hanes-llywodraethiant-olrhain-hanes-llywodraethiant-9781783160464","title":"Castell Caerfyrddin - Olrhain Hanes Llywodraethiant — Olrhain Hanes Llywodraethiant","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol sy'n gosod un o gestyll pwysicaf ond lleiaf adnabyddus Cymru yn ôl yng nghalon hanes Cymru'r Oesoedd Canol. Astudiaeth gynhwysfawr sydd wedi elwa o raglen sylweddol o gloddio archeolegol a gwaith ymchwil rhwng 1993 a 2006. Cynhwysir lluniau, diagramau a thablau ynghyd â llyfryddiaeth a mynegai gwerthfawr.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOne of Wales's most important but least-known castles is put back at the heart of the history of medieval Wales. A comprehensive study which draws on a major programme of archaeological and research work from 1993 to 2006. Includes photographs, diagrams and tables together with a valuable bibliography and index.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781783160464\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781783160464\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCastell Caerfyrddin - Olrhain Hanes Llywodraethiant — Olrhain Hanes Llywodraethiant\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOlrhain Hanes Llywodraethiant\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLudlow, Neil\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£34.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£34.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-07-29\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Prifysgol Cymru \/ University of Wales Press\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e444 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e189 × 246 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Archaeoleg (yn Gymraeg) | EN: Archaeology (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Neil Ludlow yn archeolegydd ymgynghorol ac yn gyn Reolwr Prosiect gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Gweithiodd yng ngorllewin Cymru am bum mlynedd ar hugain, ac mae ganddo wybodaeth gynhwysfawr o hanes ac adeiladau canoloesol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCastell Caerfyrddin oedd un o'r cestyll mwyaf yng Nghymru'r Oesoedd Canol, yn ogytal ag un o'r pwysicaf oherwydd ei swyddogaeth fel canolfan llywodraeth ac fel eiddo'r Goron mewn ardal o diroedd Cymreig ac arglwyddiaethau'r Mers. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r castell yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cyn ei ailddatblygu yn gyntaf fel carchar ac yna'n bencadlys i'r awdurdod lleol. Eto, mae'r adfeilion a'u lleoliad yn hynod drawiadol. Rhwng 1993 a 2006, bwriwyd ati gyda rhaglen sylweddol o waith archeolegol ac ymchwil, gwaith a ddisgrifir mewn manylder yn y llyfr hwn. Archwilir hanes y castell yn ogystal, ynghyd a'i effaith ar yr ardal ac ar Gymru gyfan. Cawn ddarlun o swyddogion a thrigolion y castell, eu gweithgareddau, a'u hymadwaith gyda'r amgylchfyd. Disgrifir y cloddfeydd yn y castell a'r creiriau a ganfyddwyd, ynghyd a'r potensial archeolegol sy'n parhau. Mae'r llyfr hwn yn gosod Castell Caerfyrddin ym myw hanes Cymru'r Oesoedd Canol, gan roi iddo'i briod le ym maes ehangach astudiaethau cestyll a hanes pensaerniol, i gyflwyno astudiaeth sy'n gyfraniad sylweddol i hanes un o drefi mawr Cymru.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819523608950,"sku":"9781783160464","price":34.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781783160464_71064245-faf6-421a-b1d8-5e7828b2182a.jpg?v=1790353516","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/castell-caerfyrddin-olrhain-hanes-llywodraethiant-olrhain-hanes-llywodraethiant-9781783160464","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}