{"product_id":"cario-mlaen-9781848517141","title":"Cario Mlaen","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDilyniant bywiog i'r nofel Ffreshars yn dilyn helyntion y ffrindiau coleg Cerys, Hywel, Meleri a Lois wedi iddynt ymuno â byd gwaith. Tybed a fyddan nhw'n dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA lively sequel to the novel Ffreshars which follows the lives of college friends Cerys, Hywel, Meleri and Lois as they join the world of employment. Will they learn from yesterday's mistakes?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848517141\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848517141\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCario Mlaen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavies, Joanna\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-06-25\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e198 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e127 × 192 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFe gwrddon ni â phrif gymeriadau Cario Mlaen am y tro cyntaf yn y nofel Ffreshars , a hwythau’n lasfyfyrwyr gobeithiol yn Aberystwyth, yn darganfod nad oedd bywyd yn fêl i gyd. Rydyn ni’n ailymuno â Lois, Hywel, Meleri a Cerys ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, pob un yn hŷn ond ddim o reidrwydd yn ddoethach. Mae Lois yn athrawes ac yn anfodlon ar ei byd a’i bywyd carwriaethol a Cerys yn ddawnswraig erotic ac yn feistres i bêl-droediwr enwog. Mae bywydau Hywel a Meleri yn llawer mwy cyfforddus wrth iddyn nhw ddisgwyl yn eiddgar i fod yn rhieni am y tro cyntaf. Ond daw anffawd i bob un ohonynt yn eu tro, gan wneud iddynt gwestiynu eu bywydau a’u dyfodol. Mae Lois yn penderfynu newid byd yn llwyr ac yn ffoi i ddinas hudolus Fenis, ac yn eu tro mae’r prif gymeriadau eraill yn ymuno â hi. Mae yna ddigonedd o chwerthin, caru a bradychu wrth i’r ffrindiau geisio greu bywydau newydd i’w hunain. Ar un wedd, mae Cario Mlaen yn ymdrin â chwestiynau mawr ac oesol, ond does 'na ddim dadansoddi syrffedus. Mae’r stori’n datblygu’n gyflym, wrth i wahanol gymeriadau adrodd yr hanesion. Mae’r neidio 'nôl ac ymlaen yma rhwng gwahanol safbwyntiau yn golygu dod i nabod pob un o’r ffrindiau yn dda a deall eu gobeithion a’u hofnau. I mi, Cerys yw’r cymeriad mwyaf cofiadwy, er mai hi yw’r lleiaf egwyddorol o’r criw, a buaswn i’n bendant ddim eisiau ei hadnabod hi go iawn! Does dim yn mynd i atal Cerys rhag gwneud bywyd cyfforddus i’w hun, a hynny ar draul pa bynnag ddyn, neu ddynion, cyfoethog fedr hi eu hudo. Ond mae yna liw a bywiogrwydd ym mhortread Joanna Davies o’i chynllwynio diddiwedd, ac elfen o gydymdeimlad hefyd. Er mai dilyniant yw’r gyfrol hon does dim angen bod wedi darllen Ffreshars i’w deall a’i mwynhau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820869194102,"sku":"9781848517141","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848517141_c4586a82-8cdd-4a05-b790-7a79ab23ceea.jpg?v=1790361531","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cario-mlaen-9781848517141","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}