{"product_id":"cariad-pur-9781907424656","title":"Cariad Pur?","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma anrheg ardderchog ar gyfer Dydd Santes Dwynwen neu Ddydd San Ffolant sef cyfrol o straeon byrion i gyd yn ymwneud â chariad. Mae'n gyfuniad difyr o ramant a realiti. Yr awduron sydd wedi cyfrannu at y gyfrol ydi Tony Bianchi, Guto Dafydd, Bethan Gwanas, Eurgain Haf, Llio Mai Hughes, Bet Jones, John Gruffydd Jones, Sian Rees a Marlyn Samuel.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWhat better present for that special day for Welsh lovers, St Dwynwen's Day or Valentine's Day? This volume of short stories is all about love and is an interesting mix of romance and reality. The authors who have contributed to the book are Tony Bianchi, Guto Dafydd, Bethan Gwanas, Eurgain Haf, Llio Mai Hughes, Bet Jones, John Gruffydd Jones, Sian Rees and Marlyn Samuel.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781907424656\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781907424656\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCariad Pur?\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBianchi, Tony; Dafydd, Guto; Gwanas, Bethan; Haf, Eurgain; Hughes, Llio Mai; Jones, Bet; Jones, John Gruffydd; Rees, Sian; Samuel, Marlyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-12-10\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e150 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCariad. Mae’n gadael ei flas a’i farc ar bob yr un ohonon ni. Mae’n croesi cenedlaethau, cyfandiroedd ac ystrydebau – yn union fel y gwna'r gyfrol hon. Rydyn ni ar drothwy Dydd Santes Dwynwen ac mae’r gyfrol hon yn gwtsh cynnes i’w gael ar y soffa, ond ni chewch yr hyn a ddisgwyliwch. O’r cychwyn cyntaf, mae'r darllenydd yn sylweddoli nad sothach sopi sydd yma. Mewn stori am ddial mewn pentref glan-môr, sydd yn gadael blas go hallt ar eich gwefusau, mae mwy i hon na rhamant. Ceir fflyd o straeon gan naw awdur gwahanol ac maent yn cyffwrdd â chariadon ifanc a hen, a'r pellter poenus sydd rhyngddynt ar brydiau, ynghyd â chariad tragwyddol, tor cariad a’r cariad hwnnw sy’n dinistrio ffiniau. Mae’r gyfrol yn gymysgedd o gyfnodau mewn hanes. Mae’r darllenydd yn plymio i ddegawdau ac i amseroedd tra gwahanol ymhob stori, gan gynnwys elfen o gariad mewn modd cynnil ac amlwg yr un pryd. Yn 'Y Dderbynwraig', trwy gymeriad cymhleth y Parchedig Emyr Jackson, mae Guto Dafydd yn cyferbynnu cyfrifoldeb caeth a cheidwadol y capel â chwant cnawdol sy’n gallu ymylu ar ffieidd-dra, ac yna daw cariad diffuant – yn annisgwyl – i’r amlwg i orchfygu’r cwbl. Mae sawl haen i’r stori hon ac yn wir i'w phrif gymeriad, Emyr. Aiff Bethan Gwanas â ni i Gartref Henoed Bryn Dedwydd yn 'Elen, tyrd yn ôl', lle mae rhywbeth yn hyfryd, hiraethus ac yn hynod o drist a hapus wrth ddarllen am Elwyn, o’i gadair freichiau, yn gweld Elen am y tro cyntaf ers amser maith. Wrth i’w stumog chwyrlïo a’i galon lamu’n afreolus unwaith eto, ai dryswch meddwl hen ŵr sydd yma? Mae calon y darllenydd yn llamu o dosturi ac eto’n meddalu o glywed yr union beth mae Elwyn yn ei weld, ei deimlo ac yn gobeithio amdano unwaith eto, sef cariad pur. Mae’r gyfrol hon yn llwyr haeddiannol o gael ei dewis yn Llyfr y Mis gan gwmni Waterstones, un o lyfrwerthwyr mwyaf Prydain, a'r llyfr cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg i ennill y teitl. Do, mae’r awduron hyn wedi codi eu saethau Ciwpid, wedi'u hanelu at diroedd diderfyn cariad ac wedi chwalu sawl ffin.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821085692278,"sku":"9781907424656","price":7.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781907424656_f2851b1f-1c18-4dbc-aa24-8dbf471ab5eb.jpg?v=1790363706","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cariad-pur-9781907424656","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}