{"product_id":"cariad-9781911584650","title":"Cariad","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad hyfryd, hyfryd o gerddi am gariad, am serch ac am ramant yn y byd sydd ohoni. Mae yma gerddi wedi eu comisiynu o'r newydd, a llawer o gerddi cyfarwydd iawn hefyd. Y llyfr anrheg perffaith ar gyfer Dydd Santes Dwynwen!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA highly charming collection of poems about love and romance in our world today. The collection comprises new works commissioned especially for this volume together with familiar pieces. The perfect gift for Saint Dwynwen's Day on 25th January.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584650\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584650\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCariad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBarddas, Cyhoeddiadau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2023-01-10\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLovgreen, Mari\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e72 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e150 × 150 mm; depth 8 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol ddeniadol iawn yw hon ar sawl ystyr: casgliad o 48 o gerddi am gariad wedi eu hel ynghyd gan Mari Lovgreen a’u cyflwyno mewn diwyg cyfoes a hwyliog sy’n cyfuno talentau’r artist Anna Gwenllïan a’r dylunydd Tanwen Haf. Cyfrol sgwâr, liwgar, glawr caled yw hi, yn brawf pellach fod Cyhoeddiadau Barddas yn gwybod yn iawn fod modd i lyfr barddoniaeth hefyd fod yn llyfr anrheg. A dweud y gwir, mae’r clawr oren – gyda’i deitl un gair a’i saeth lliw leilac – yn ein hargyhoeddi’n syth nad cyfrol farddoniaeth draddodiadol yw hi. Mae’r golygydd gwadd ar dân i’n hargyhoeddi nad curadur traddodiadol yw hi, chwaith. Yn ei rhagair, mae’n esbonio nad ei thasg hi oedd dethol ‘y cerddi cymraeg gorau am gariad erioed’ a’i bod hi, yn hytrach, wedi mynd ati ‘efo calon a meddwl agored’ i ddewis y cerddi hynny sydd wedi gwneud iddi ‘deimlo rhywbeth’. Beth sydd hefyd yn amlwg o’r rhagair (ac o’r detholiad) yw ei bod hi wedi gwneud ymdrech gydwybodol i gynrychioli’r ystod o gerddi serch sydd ar gael. Nid yw Mari Lovgreen yn ymddiheuro, chwaith, ei bod hi wedi cynnwys cerddi gan aelodau o’i theulu ei hun, gan ddwysáu’r teimlad taw detholiad personol iawn yw hwn. Mae’n ddetholiad difyr hefyd, ac yn gymaint mwy na’r rhestr wirio arferol o gerddi enwog am gariad. Mae 41 o’r cerddi wedi eu cyfansoddi gan feirdd sy’n dal ar dir y byw, a bron eu hanner nhw wedi eu hysgrifennu gan ferched, gyda phump o’r rheini wedi eu comisiynu’n arbennig ar gyfer y gyfrol hon, sef Mari Elen, Caryl Bryn, Gwenllïan Elis, Llio Maddocks a Casi Wyn. Does dim lle i Dafydd ap Gwilym ac Ann Griffiths yma, ond does dim gwahaniaeth oherwydd mae’n gyfle i glywed ambell lais llai cyfarwydd, fel un Tegwen Bruce-Deans, a aeth ati i ailweithio ‘Pa beth yw dyn?’ Waldo: Pa beth yw cariad? Chwythu un blewyn amrant Tu hwnt i’n cyrraedd. Nid bod prinder enwau mwy adnabyddus yma, chwaith. Yn eu plith mae Gerallt Lloyd Owen, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Rhys Iorwerth, Llŷr Gwyn Lewis, Steve Eaves, Manon Steffan Ros, Mari George, Elan Grug Muse, Elinor Wyn Reynolds, Marged Tudur a Mererid Hopwood. Ydy, mae’n gyfrol ddeniadol. Ydy, mae’n gyfrol ddifyr. Ond mae ganddi rinwedd fwy ymarferol hefyd: o’i phrynu, bydd gennych ddewis o gyfarchion addas i’w cynnwys mewn cardiau Santes Dwynwen ac ati am flynyddoedd i ddod.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821134909814,"sku":"9781911584650","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584650_3c7a65b3-3915-4ce6-865f-9f1420d5589d.jpg?v=1790364662","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cariad-9781911584650","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}