{"product_id":"camu-n-ol-a-storiau-eraill-9780956651679","title":"Camu'n Ôl a Storïau Eraill","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn y gyfrol hon ceir 16 o straeon, amrywiol o ran hyd a dyfais. Canolbwynt y digwydd yw Cwmadda, ardal wledig, gyn-ddiwydiannol ar gwr Eryri. Oddi yno eir am dro i dref llawr gwlad, Aberadda a Chaeradda, weithiau cyn belled â Chaerdydd, Llundain a Ffrainc. Gwelir fod y straeon mewn amrywiol gyweiriau. Ond y prif gywair yw dychan.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSixteen satirical stories located in the fictional village of Cwmadda, a rural, post-industrial area on the edge of Snowdonia.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780956651679\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780956651679\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCamu'n Ôl a Storïau Eraill\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAdda, Glyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£15.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£15.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-05-09\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDalen Newydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e400 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePrin iawn yw’r awduron sydd wedi gwneud i mi chwerthin yn uchel. Yn eu plith mae Wil Sam ac Eirwyn Pontsiân. At y rhain ychwanegwch Glyn Adda a’i gasgliad rhyfeddol o storïau byrion, Camu’n Ôl a Storïau Eraill . Do, fe wnes i chwerthin lond fy mol wrth ddarllen hanesion am yr anghydfod rhwng gwahanol drigolion Winllan Wen a Thyddyn Sais. A dyna i chi wedyn saga Pauline, y wraig drws nesa sy’n penderfynu dysgu Cymraeg. Dwy stori sy’n ddamhegion crwn a chryno. Mae’r un stori ar bymtheg sydd yn y casgliad i gyd yn berlau. Dyma waith awdur sy’n berchen ar lygaid craff, clustiau meinion a dychymyg sy’n drên. Mae dychan a hiwmor cynnil – ac weithiau dynerwch atgofus – yn rhedeg drwy’r cyfan. Ffugenw yw Glyn Adda, wrth gwrs, ar un o’n hieithyddion praffaf a phuraf. Dyma werslyfr i unrhyw awdur sydd am fynegi ei hun yn glir a diamwys. Gall ein harwain fesul cam tuag at uchafbwynt o chwerthin neu weithiau i ddyffryn o ddwyster. Ond y geiriau allweddol yw dychan ac eironi. A dydi’r dyfeisgarwch byth yn troi’n glyfrwch bas, byth yn troi’n gimics. Da yw cael storïau byr sy’n cyflawni'r hyn a nodir ar y tun. Maen nhw’n storïau. Maen nhw’n fyr. Ac yn rhedeg trwyddynt fel llythrennau drwy roc mae yma idiomau a phriod-ddulliau cyhyrog ac ysgytwol. Mae’r ieithwedd a’r gystrawen yn pefrio drwyddi draw, yn gadarn ond eto’n ystwyth. Y mae yma aml haenau, ac ambell ddolen sy’n ein clymu wrth ein gorffennol, yn hanesyddol a llenyddol. Cymerwch stori sydd ar ffurf sgript rhaglen radio debyg i Beti a’i Phobol . Mae’r gwestai’n gyn-awyrennwr a fu’n rhan o gyrch y Dambusters. Mae’n dod adre i wynebu bygythiad Awdurdod Dŵr Birmingham i foddi ei gwm genedigol. Mae’n llwyddo i atal y llanw, ond boddir y cwm wedyn gan y mewnlifiad. Enw’r stori yw ‘Dyddiau Olaf Derlwyn’. Enw’r awyrennwr yw Emlyn. Ie, dyfeisgarwch. Mae teitl y gyfrol yn llawn arwyddocâd. Weithiau, fel yn ‘Wythnos yng Nghymru Fu’ mae e’n arwyddocâd llythrennol. Felly hefyd y stori sy’n disgrifio’r cyfarfyddiad rhwng Ellis Wynne a Siôn Cent. Mae yma gamu’n ôl hefyd i asesu sefyllfa, fel yn ‘Pobl y Ffridd’ ac ‘Isio Mwy’. Ac mae storïau fel ‘Y Llwybrau Gynt’ a ‘Marion, Marian a Minnau’ yn gamu ’nôl hiraethus a thyner. Dyma gyfrol y talai i bob egin awdur – ac ambell un sydd wedi ymsefydlu hefyd – ei darllen. Mae’r Gymraeg yn llifo megis afon drwyddi a bu ei darllen yn bleser pur.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819081470326,"sku":"9780956651679","price":15.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780956651679_fc0e6c90-5064-42a3-88a5-44621fa79ae1.jpg?v=1790353070","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/camu-n-ol-a-storiau-eraill-9780956651679","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}