{"product_id":"cai-enillydd-y-fedal-ryddiaith-2016-9781785621758","title":"Cai - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2016","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae tymor coleg newydd ar fin dechrau yn Aberystwyth, a'r myfyrwyr yn dychwelyd at eu gwaith wrth i'r dyddiau fyrhau'n araf at y gaeaf. Yn yr Ysgol Gelf, mae Cai yn ofni na fydd ganddo arian i barhau â'i ymchwil i waith yr artist meudwyaidd, Aeres Vaughan, ond daw neges annisgwyl un dydd sy'n peri iddo ailfeddwl. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2016.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA new term is about to start at Aberystwyth University; the students will return and the days will get shorter. At the School of Art, Cai fears he has no money to continue his research into the work of the reclusive artist Aeres Vaughan, but one day he receives an unexpected message which causes him to rethink. Winner of the Literary Medal at the 2016 National Eisteddfod.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785621758\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785621758\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCai - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2016\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSalisbury, Eurig\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2016-08-03\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e192 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBardd yw Eurig Salisbury. Ac mae ôl bardd ar ei nofel Cai . Rhan o dasg bardd, wrth gwrs, yw cyfleu neges yn gryno iawn; heb os, canlyniad y ddisgyblaeth honno yw'r stori hon ac iddi lawer tro annisgwyl, a hynny mewn llai na 40,000 o eiriau, sef gofynion cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. O fewn y cyfyngiad geiriol yma hefyd cyffyrddir â nifer o themâu, megis y diffyg cefnogaeth i gelf yng Nghymru, yr elfen o hap a siawns wrth geisio sicrhau cefnogaeth i brosiectau ymchwil, yr ecsodus o’r Gymru wledig i Gaerdydd, a'r diffyg parch i’r Gymraeg. Mae yma hefyd enghreifftiau lu o’r blas a gaiff Eurig Salisbury ar fwytho geiriau ac o greu cymariaethau bachog. Cymhara'r Gymraeg brin a geir yng ngohebiaeth unigolyn ‘fel mân gyraints mewn torth o fara brith’, a dyma un enghraifft o'r dweud pert iawn sy’n britho’r nofel. Ond er yr ysgrifennu cain mewn iaith goeth, y stori sy’n arwain, er efallai nad yw honno'n cydio o ddifri tan eich bod tua chwarter ffordd drwy’r nofel. Yn y chwarter cyntaf gosodir y gefnlen a chawn gyfle i ddod i adnabod y prif gymeriad, Cai, sy’n fyfyriwr ymchwil yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Ond o hynny ymlaen mae’r tempo yn cynyddu. Mae yna newid annisgwyl arall cyn cyrraedd y diwedd – try’r gwaith yn nofel dditectif, ac fe ges i flas arbennig ar yr helfa. Stori gyfoes yw stori Cai, a phan gododd y cyfeiriad at Dryweryn suddodd fy nghalon – ai rhyw gawl eildwym, ystrydebol oedd y nofel hon wedi’r cyfan? Ond doedd dim rhaid i fi boeni; defnyddir yr hanes cyfarwydd mewn ffordd ffres a chredadwy. Mae llawer o bethau i’w canmol yn y nofel hon. Mwynheais yn arbennig y symud rhwng dau leoliad, o Aberystwyth drefol, fywiog y myfyrwyr i Feirionnydd lawiog, wledig â'i phoblogaeth hŷn; o lety llwm y myfyrwyr i foethusrwydd hynafol Plas Helygog, cartref yr artist Aeres Vaughan, gwrthrych ymchwil Cai. Dywedodd beirniaid y Fedal Ryddiaith fod y nofel hon yn llawn haeddu’r wobr mewn cystadleuaeth gref a’i bod yn eang ei hapêl. Cytunaf yn llwyr. Mae Eurig Salisbury yn ddi-os yn fardd talentog, ond mae bellach hefyd yn nofelydd penigamp.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820124868982,"sku":"9781785621758","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785621758.jpg?v=1790354502","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cai-enillydd-y-fedal-ryddiaith-2016-9781785621758","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}