{"product_id":"bwytai-cymru-9781785622434","title":"Bwytai Cymru","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Lowri Cooke wedi teithio Cymru gyfan yn chwilio am y mannau mwyaf hyfryd i gael cinio ynddynt, ac mae hi wedi'u canfod ym mhob cwr o Gymru. Yn Bwytai Cymru cewch gip ar 50 o fwytai arbennig sydd â chysylltiadau diddorol â'u milltir sgwâr... ac weithiau â lleoedd mwy egsotig hefyd!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLowri Cooke has travelled the length and breadth of Wales searching for the best places to eat and has found them in all corners of the country. In Bwytai Cymru you get a look at 50 special restaurants with interesting connections with their local area... and sometimes places a little more exotic!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785622434\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785622434\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBwytai Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCooke, Lowri\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-11-16\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e222 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 150 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau (yn Gymraeg) | EN: Travel, Tourism, Guide Books (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Arweinlyfrau - Cymru (yn Gymraeg) | EN: Guide Books - Wales (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e1. Bistro Bermo, 6 Stryd yr Eglwys, Abermaw LL42 1EW; 01341 281284 2. Bwyty Mawddach, Llanelltyd, Dolgellau, Gwynedd LL40 2TA; 01341 421752 3. Cross Foxes, A487, Brithdir, Dolgellau, LL40 2SG; (01341) 421001 4. Dylan’s, Morannedd, Maes y Môr, Cricieth LL52 0HU; 01766 522773 5. Dylanwad, Porth Marchnad, Dolgellau LL40 1ET; 01341 422870 6. The Loft, Ye Olde Bull’s Head, Stryd y Castell, Biwmares, Ynys Mon LL58 8AP; 01248 810329 7. The Marram Grass, White Lodge, Niwbwrch, Sir Fôn LL61 6RS; 01248 440077 8. Plas Bodegroes, Ffordd Nefyn, Efailnewydd, Pwllheli LL53 5TH; 01758 612363 9. Plas yn Dre; 23, Stryd Fawr y Bala, LL23 7LU; 01678 521256 10. Bwyty Gwesty Portmeirion, Minffordd, Penrhyndeudraeth LL48 6ER; 01766 772440 11. Sosban a’r Hen Gigydd: Trinity House, 1 Stryd Fawr, Porthaethwy, Ynys Môn LL59 5EE; 01248 208131 \/ 07963 210151 12. Tŷ Castell; 18 Stryd Fawr, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RN; 01286 674937 13. Ŵso ac Olewydd; 14 Stryd Twll yn y Wal, Caernarfon LL55 1RF; 01286 674333 14. Bryn Williams Porth Eirias: Promenâd Bae Colwyn LL29 8HH; 01492 577525 15. The Hand, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llangollen LL20 7LD; 01691 600666 16. Machine House, Heol Caer, Rossett LL12 0HW; 01244 571678 17. Tyddyn Llan, Llandrillo, Corwen LL21 0ST; 01490 440264 18. The White Horse, Hendrerwydd, Dinbych LL16 4LL; 01824 790218 19. Gwesty Cymru, 19 Marine Terrace, Aberystwyth SY23 2AZ; 01970 612252 20. Harbourmaster, 1 Quay Parade, Aberaeron, Ceredigion SA46 0BT; 01545 570755 21. Llangoed Hall, Llyswen, Aberhonddu LD3 0YP; 01874 754525 22. Number Twenty One, 21 Heol Maengwyn, Machynlleth SY20 8EB; 01654 703382 23. Pysgoty, South Marine Terrace, Aberystwyth SY23 1JY; 01970 624611 24. Seeds, 5-6 Penybryn, Llanfyllin, Sir Drefaldwyn SY22 5AP; 01691 648604 25. Y Talbot, Y Sgwâr, Tregaron SY25 6JL; 01974 298208 26. Ynyshir, Eglwysfach, Machynlleth SY20 8TA; 01654 781209 27. Beach House; Traeth Oxwich, Penrhyn Gwyr, Abertawe SA3 1LS; 01792 390965 28. The Grove, Molleston, Arberth, Sir Benfro SA67 8BX; 01834 860915 29. La Calabria, Rhydgoch, Ffostrasol, Llandysul, Ceredigion SA44 5JT; 01239 851101 30. Llys Meddyg, Stryd y Dwyrain, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0SY; 01239 820008 31. Y Polyn, Capel Dewi, Caerfyrddin SA32 7LH; 01267 290000 32. The Shed, 56 Heol Llanrhian, Porthgain, Hwlffordd SA62 5BN; 01348 831518 33. Slice; 73-74 Heol Eversley, Sgeti, Abertawe SA2 9DE; 01792 290929 34. Sosban, Y Tŷ Pwmpio, Doc Gogleddol, Llanelli SA15 2LF; 01554 270020 35. The Warren, 11 Stryd Mansel, Caerfyrddin, SA31 1PX; 01267 236079 36. The Art Room @ Castell Malgwyn, Llechryd, Sir Benfro SA43 2QA; 01239 682382 37. Arboreal, 68 Eastgate, Y Bontfaen CF71 7AB; 01446 775093 38. Asador 44, 14-15 Stryd y Cei, Caerdydd CF10 5PM; 02920 020039 39. Bunch of Grapes, Heol Ynysangharad, Pontypridd CF37 4DA; 01443 402934 40. Curado Bar, 2 Guildhall Place, Caerdydd CF10 1EB; 02920 344336 41. Hare \u0026amp; Hounds, Heol Maendy, Aberthin, Y Bontfaen CF71 7LG; (01446) 774892 42. JOL’s, 30-31 Stryd Fawr, Merthyr Tudfil CF47 8DP; 01685 267878 43. Milgi, 213, Heol y Ddinas, Y Rhath, Caerdydd CF24 3JD; 02920 473150 44. Milkwood, 83 Stryd Pontcanna, Caerdydd CF11 9HS; 02920 232226 45. Purple Poppadom, 185a Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd CF11 9AJ; 02920 220026 46. Restaurant James Sommerin: The Esplanade, Penarth CF64 3AU; 02920 706559 47. Heaney’s, 6-10 Cilgant Romilly, Caerdydd CF11 9NR ; 02920 341264 48. The Thai House, 3-5 Cilgant Guildford, Caerdydd CF10 2HJ; 02920 387404 \/ Bangkok Cafe, 207 Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd CF11 9AJ; 02920 340455 49. The Walnut Tree Inn, Hen Ffordd Rhosan ar Wy, Llanddewi Ysgyryd, Y Fenni NP7 8AW; 01873 852797 50. The Whitebrook, Gwenffrwd, Trefynwy NP25 4TX; 01600 860254\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDipyn o bererin yw Lowri Haf Cooke. A’i hangerdd yn ei sbarduno, ymgymerodd â thaith flwyddyn o hyd yn ymchwilio a phrofi tai bwyta ledled Cymru, gan sgwrsio â pherchnogion a chogyddion, blasu’r cynnyrch a nodi ei hargraffiadau, gyda’r ffotograffydd Emyr Young yn cofnodi’r cyfan gyda’i gamera. Ffrwyth yr ymchwil trylwyr hwn yw Bwytai Cymru , sy’n gyfuniad cain o gyfeiriadur bwyd a llyfr taith, gyda thros hanner cant o bortreadau o dai bwyta safonol ar draws Cymru. Nid llyfr i'w ddarllen ar ei hyd mewn un eisteddiad yw hwn – byddai hynny’n ormod o bwdin, yn llythrennol. Yn hytrach, cyfrol i bori drwyddi yw hi, a mwynhau darllen am gigoedd suddlon, llysiau blasus, pwdinau gogoneddus a gyflwynir gan bobl â gweledigaeth ac uchelgais yn eu gyrru i gynnig y bwyd gorau yn y modd mwyaf pleserus i’w cwsmeriaid. Go brin y bydd llawer o ddarllenwyr, ar wahân i ambell foodie , wedi ymweld â phob un o’r tai bwyta, ond mae’n rhesymol meddwl y bydd y nifer helaeth yn gyfarwydd ag o leiaf un neu ddau. Felly, fel y tybiaf y mae’r mwyafrif yn ei wneud, troi at yr adroddiadau am lefydd roeddwn i’n eu hadnabod wnes i wrth godi’r gyfrol, ac er, fel y dywed Lowri, fod pob profiad o dŷ bwyta yn ei hanfod yn rhywbeth personol, mi gefais sawl adlais cyfarwydd yn dwyn atgofion am brydau ac achlysuron pleserus yn yr ysgrifau a’r disgrifiadau, yn ogystal â gwybodaeth gefndir hynod ddifyr am y bwytai a’u perchnogion. Mae gosod dros hanner cant o dai bwyta o’r safon uchaf rhwng dau glawr yn dangos cymaint o ddewis ac amrywiaeth sydd ar gael bellach, nid yn unig o ran y mathau o fwydydd a weinir, ond o ran cymhellion y perchnogion, o barhau â busnes teuluol, i awydd i arallgyfeirio a newid gyrfa, i ailymweld â phrofiadau plentyndod. O reidrwydd, ciplun a geir – rhywbeth arall sy’n dod i’r amlwg yw ei fod yn ddiwydiant sy’n newid yn barhaus; er bod rhai tai bwyta wedi hen sefydlu ac yn rhan o dirwedd Cymru, mae cryn sôn hefyd am gogyddion yn symud o un lle i’r llall, a sut mae hynny’n gallu effeithio ar ffawd y busnes, er da neu ddrwg. O’r 'perlau cudd' i’r 'enwau sy’n arwain y gad ers tro byd', un peth sy’n disgleirio drwy’r cyfan yw mwynhad yr awdur. Does dim amheuaeth mai llafur cariad yw’r gyfrol i Lowri a hefyd i Emyr Young, y mae ei luniau cynnil yn ategu ac yn adleisio’r geiriau. Hyfryd yw cael cyd-deithio Cymru gyda Lowri a mwynhau’r profiad drwy ei disgrifiadau coeth. Fel y dywed wrth ddisgrifio pei meringue\u0026gt;\/i\u0026gt; y Polyn ger Nantgaredig: “Blas cwbl anfoesol, ond arbennig o dda – ac onid dyna paham fod bwytai yn bod o gwbl? I gynnig profiad trosgynnol mewn awyrgylch cartrefol, a hynny mewn cwmni da.” Cyfrol werth ei chael, boed i gael awgrymiadau am lefydd i ymweld â nhw, neu i fwynhau darllen am y bwydydd godidog a’r bobl ddifyr sy’n eu creu.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820132929910,"sku":"9781785622434","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785622434_9850e1ef-1ce2-45bc-8d32-cdae0cdbb4fd.jpg?v=1790354537","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/bwytai-cymru-9781785622434","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}