{"product_id":"brwydr-i-baradwys-y-dylanwadau-ar-dwf-ysgolion-cymraeg-de-ddwyrain-cymru-y-dylanwadau-ar-dwf-ys-9780708322970","title":"Brwydr i Baradwys? - Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-Ddwyrain Cymru — Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-Ddwyrain Cymru","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn y gyfrol arloesol hon dadansoddir y dylanwadau niferus, amlhaenog a chydadweithiol ar dwf rhyfeddol ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru. Nid hanes a geir ynddi, ond astudiaeth amlddisgyblaethol ieithyddol, gymdeithasol, seicolegol, wleidyddol, ac addysgol, sy'n cynnwys dadansoddiad o'r brwydro y dadleuir fu'n bennaf cyfrifol am wrthdroi'r shifft ieithyddol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis volume examines the influences on the astonishing development of the Welsh schools of south-east Wales. This is not a historical review, but a study of multidiscipline linguistic, social, psychological, political, and educational issues; and observes the struggle that is considered to be paramount in the linguistic modification.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780708322970\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780708322970\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBrwydr i Baradwys? - Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-Ddwyrain Cymru — Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-Ddwyrain Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-Ddwyrain Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eThomas, Huw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNon-Stock Item - Ordered on request\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eArchebir yn ôl y galw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-07-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Prifysgol Cymru \/ University of Wales Press\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e378 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e138 × 216 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: 20fed Ganrif (yn Gymraeg) | EN: 20th Century (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYsgolion Uwchradd: Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Barri Ysgol Gyfun Gwyr, Abertawe Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili Ysgol Gyfun Y Cymer, Rhondda Ysgol Gyfun Gwynllyw, Torfaen Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd Ysgol Gyfun Llangynwyd, Maesteg Ysgol Gyfun Llanhari, Pontyclun Ysgol Gyfun Rhydfelen, Rhondda Cynon Taf Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdar Ysgol Gyfun Ystalyfera, Castell Nedd Ysgolion Cynradd: Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Eirwg, Caerdydd Ysgol Bro Sannan, Caerffili Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili, Caerffili Ysgol Gynradd Gymraeg Cefn Coed, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Coed y Gof, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Derwen, Y Coed Duon Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant, Llanelli Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaelod-y-Garth, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Ifor Hael , Casnewydd Ysgol Gynradd Gymraeg Llanwenarth, Sir Fynwy Ysgol Lluest\/Gymraeg yr Urdd, Abersytwyth Ysgol Gynradd Gymraeg Mynydd Bychan, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pencae, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-groes, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton, Pontypridd Ysgol Gynradd Gymraeg Pont-y-gwaith, Cwm Rhondda Ysgol Y Rhymni, Caerffili Ysgol Gynradd Gymraeg Sant Ffransis, Y Barri Ysgol Gynradd Gymraeg Tan yr Eos, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf Ysgol Gynradd Gymraeg Trelyn, Pengam Ysgol Gynradd Gymraeg Tyderwen\/Cynwyd Sant, Maesteg Uned Risca, Gwent Ysgol Y Dderwen, Caerdydd Ysgol Gynradd Gymraeg Y Ferch o’r Sgêr, Porthcawl Ysgol Y Wern, Caerdydd Ysgol Ynys-lwyd, Aberdâr Ysgol Gymradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHuw Thomas, Swyddog Proffesiynol CYDAG (Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg).\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDadansodda’r gyfrol arloesol hon y dylanwadau niferus, amlhaenog a chyd-adweithiol ar dwf rhyfeddol Ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru. Nid hanes mohoni, ond astudiaeth aml-ddisgyblaethol ieithyddol, gymdeithasol, seicolegol, wleidyddol, ac addysgol, a ddadansodda’r brwydro y dadleuir fu’n bennaf gyfrifol am wrthdroi’r shifft ieithyddol. Llawn cyn ryfedded yw’r ffaith na wnaed astudiaeth gyffelyb cyn hyn. Cedwir gydbwysedd rhwng astudiaethau beirniadol ac ymchwil empirig. Seiliwyd y dystiolaeth feintiol ar ymatebion samplau cynrychioliadol o dros 700 o rieni ac athrawon mewn amrywiol holiaduron, ac ar ddata o adroddiadau Estyn a ffynonellau ystadegol. Casglwyd tystiolaeth ansoddol mewn cyfweliadau ag unigolion yn rhychwantu meysydd llywodraeth ganol a lleol, y gwasanaeth sifil ac Awdurdodau Addysg Lleol, yr Arolygiaeth, rhieni a llywodraethwyr, penaethiaid ysgol a grwpiau gwirfoddol. Dadleuir mai o’r gwaelod i fyny, o gyfeiriad athrawon, ac yn arbennig y rhieni, y datblygodd y pŵer i yrru deinamo’r sector, ond bod unigolion wedi defnyddio’u disgresiwn ar lefelau meso a macro mewn gwleidyddiaeth leol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol er mwyn dylanwadu ar strwythurau ategol a hwylusai, yn amlach na rhwystro, ymdrechion yr actorion. Unigolion, yn fwy na pholisi na phlaid, fu’r dylanwadau pennaf. Disgrifir fframweithiau damcaniaethol a chysyniadol macro iaith, hunaniaeth, strwythur ac actor er mwyn datod y gwead cymhleth o ddylanwadau, ac ar y fframweithiau hyn y dadansoddwyd y pwerau yn natblygiad y “mudiad” ar ei daith hir a blinderus tuag at baradwys ieithyddol genedlaethol. Gosodir felly yr Ysgol Gymraeg mewn cyd-destun byd-eang.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCedwir gydbwysedd rhwng astudiaethau beirniadol ac ymchwil empirig. Seiliwyd y dystiolaeth feintiol ar ymatebion samplau cynrychioliadol o dros 700 o rieni ac athrawon mewn amrywiol holiaduron, ac ar ddata o adroddiadau Estyn a ffynonellau ystadegol. Casglwyd tystiolaeth ansoddol mewn cyfweliadau ag unigolion yn rhychwantu meysydd llywodraeth ganol a lleol, y gwasanaeth sifil ac Awdurdodau Addysg Lleol, yr Arolygiaeth, rhieni a llywodraethwyr, penaethiaid ysgol a grwpiau gwirfoddol. Dadleuir mai o’r gwaelod i fyny, o gyfeiriad athrawon, ac yn arbennig y rhieni, y datblygodd y pŵer i yrru deinamo’r sector, ond bod unigolion wedi defnyddio’u disgresiwn ar lefelau meso a macro mewn gwleidyddiaeth leol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol er mwyn dylanwadu ar strwythurau ategol a hwylusai, yn amlach na rhwystro, ymdrechion yr actorion. Unigolion, yn fwy na pholisi na phlaid, fu’r dylanwadau pennaf. Disgrifir fframweithiau damcaniaethol a chysyniadol macro iaith, hunaniaeth, strwythur ac actor er mwyn datod y gwead cymhleth o ddylanwadau, ac ar y fframweithiau hyn y dadansoddwyd y pwerau yn natblygiad y “mudiad” ar ei daith hir a blinderus tuag at baradwys ieithyddol genedlaethol. Gosodir felly yr Ysgol Gymraeg mewn cyd-destun byd-eang.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58818902196598,"sku":"9780708322970","price":19.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780708322970.jpg?v=1790346233","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/brwydr-i-baradwys-y-dylanwadau-ar-dwf-ysgolion-cymraeg-de-ddwyrain-cymru-y-dylanwadau-ar-dwf-ys-9780708322970","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}