{"product_id":"bro-a-bywyd-dic-jones-9781906396411","title":"Bro a Bywyd: Dic Jones","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePortread darluniadol cynhwysfawr o fywyd a bro'r bardd Dic Jones ­ ei achau a'i deulu, y dylanwadau lleol arno, ei amaethu a'i ganu, ei lenydda a'i gymdeithasu. Llyfr llawn ffotograffau, nifer ohonynt yn rhai lliw.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA comprehensive photographic portrayal of the life and locality of the poet Dic Jones, his early and later family life and the local influences on his life and work. A volume which is full of photographs, many of then in colour.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781906396411\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781906396411\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBro a Bywyd: Dic Jones\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBarddas, Cyhoeddiadau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-07-04\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavies, Dai Rees\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eErs marw'r Prifardd Dic Jones dair blynedd yn ôl, ac yntau ar y pryd yn Archdderwydd, mae yna lawer o gyfrolau wedi’u cyhoeddi i gofio amdano. Casgliadau o'i gerddi penigamp yw nifer ohonynt, ond y tro hwn, cawsom gan Barddas gyfrol o luniau a nodiadau, yngyhyd â rhai cerddi, sy’n crynhoi cerrig milltir bywyd Dic, a'r cyfan wedi’i gywain yn gelfydd gan Dai Rees Davies. Rhennir y gyfrol yn adrannau – lluniau teulu bore oes, hanes Aelwyd yr Urdd Aberporth, hanes Dic a Siân a’r teulu, Dic yr amaethwr, Dic y cerddor, Dic y llenor, Dic yr actor a’r cymdeithaswr, Dic yr Archdderwydd, ac yn olaf, atgofion amdano. Mae yma stôr o luniau difyr, rhai’n cofnodi tristwch, eraill yn cofnodi llawenydd. Pennod hynod drist i’r teulu fu colli Esyllt, gefell Tristan, ac y mae’r alarnad a gofnodir yma (ac mewn cyfrolau eraill) yn dorcalonnus: Dygwyd ein Esyllt egwan, – mam na chaiff Mwy na chôl na chusan, Beth sy’n fwy trist na Thristan Yn ceisio cysuro Siân? Mae ’na luniau eraill a nodiadau digon difyr ynghlwm wrthynt. Dyma’r un, er enghraifft, am bedwarawd SATB Aber-porth yn canu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abergwaun, a Dic yn aelod o’r pedwarawd. Mae’n debyg i’r gynulleidfa wirioni ar harmoni’r pedwar llais, a disgrifiodd y beirniad eu perfformiad fel un perffaith! Difyr, hefyd, yw gweld a darllen am chwiorydd Dic a'i ddiweddar frawd, ac am Dic yr actor – hanes na wyddwn i ddim amdano! Mae yma wybodaeth hynod ddifyr yn y gyfrol hon. Ydi, mae’r llyfr wedi’i rannu yn adrannau ond mae nifer fawr ohonynt yn gorgyffwrdd, fel elfennau o fywyd Dic ei hun. Dyma lyfr bwrdd coffi go iawn, a chyfrol sy’n wledd i’r glust a’r llygad.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821054988662,"sku":"9781906396411","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781906396411.jpg?v=1790363323","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/bro-a-bywyd-dic-jones-9781906396411","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}