{"product_id":"bodlon-byw-n-hapus-ar-lai-9780860742746","title":"Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr byrlymus yn tynnu ar brofiadau Angharad Tomos a'i theulu ynghylch sut i fyw bywyd llai gwastraffus. Os ydych chi wastad â chant a mil o bethau i'w gwneud, yn dyheu am fywyd symlach i chi a'ch teulu, yn ysu am gael rhyw eiliad neu ddau i chi'ch hun, dyma'r union lyfr rydych wedi bod yn chwilio amdano.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA book that documents the experiences of the author Angharad Tomos in her quest to live a more green and less wasteful life. If you are one of those people who always has a thousand things on the go, do you long for a simpler life for you and you're family or maybe you want a few quiet moments to yourself? If so this is the book for you.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780860742746\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780860742746\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBodlon - Byw'n Hapus ar Lai\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTomos, Angharad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2011-10-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Gwynedd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e60 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e200 × 200 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Natur, Daearyddiaeth, Daeareg (yn Gymraeg) | EN: Nature Studies, Geography, Geology (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Yr Amgylchedd (yn Gymraeg) | EN: The Environment (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol hunangymorth yw Bodlon , epil y gyfrol Self-Help gan Samuel Smiles (1859), y gwaith Fictoraidd hwnnw a lwyddodd i ennill cornel arbenigol a phroffidiol o’r farchnad lyfrau iddo’i hun. Diben cyfrolau o’r fath yw hyfforddi’r darllenydd i gyflawni rhyw nod drwy sylwi ar ddiffygion personol ac ymdrechu i’w cyfnewid am arferion da. Pwrpas Bodlon yw ein helpu i ddefnyddio’n hamser yn well, a gwella’n defnydd o adnoddau’r ddaear. Dylem fwyta’n iach – bwyd lleol, llysieuol gan mwyaf, a pheidio â bod yn rhy farus. Dylem gerdded i bobman sy’n llai na milltir o bellter, beicio i bobman sy’n nes na phedair milltir, a gofalu bod o leiaf un diwrnod yr wythnos yn ddiwrnod di-gar. Dylem ddefnyddio hancesi go iawn yn lle hancesi papur, a defnyddio pin dur a photel inc yn lle beiros a ffelt tips sydd wedi’u gwneud o blastig. Yn lle mynd i’r dre i siopa ar fore Sadwrn awgrymir ein bod ni’n aros gartref i wnïo, garddio, coginio, a mynd â’r ci am dro. Proc i gydwybod yw’r gyfrol hon. Ar sail y dylunio ceir yr argraff gamarweiniol mai cyfrol ysgafn yw hon – cyfrol i blant, o bosib. Mae golwg ifanc, brysur iddi, gyda’i chymysgedd o ffotograff a chartŵn, rhai yn well ac yn gryfach na’i gilydd. Er bod y tudalennau wedi’u gosod yn ddeniadol i’r llygad, nid yw pob tudalen yn gyfforddus i’r llygad. Mae un ffont sy’n annifyr i’w darllen, sef y ffont sy’n agor y gyfrol drwy adrodd stori’r pysgotwr. Ond mae gafael braf i’r papur, a’r teimlad yn gyfforddus i’r llaw. Rhestrwyd nifer helaeth o gynghorion da yn y gyfrol hon y byddai’n talu ffordd inni eu dilyn. Efallai na fydd pob un yn dymuno gwella ei fywyd yn yr union ddull a modd hwn, ond mae Bodlon yn fan cychwyn ardderchog i ni ystyried ein dulliau ein hunain o barchu amser, a’r byd o’n cwmpas.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819012657526,"sku":"9780860742746","price":7.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780860742746.jpg?v=1790347121","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/bodlon-byw-n-hapus-ar-lai-9780860742746","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}