{"product_id":"ble-mae-boc-ar-goll-yn-y-chwedlau-9781784619541","title":"Ble Mae Boc? ar Goll yn y Chwedlau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e10 o luniau tudalen ddwbl. Mae pob taenlen yn dangos golygfa lawn dop, gyda'r nod o ddod o hyd i Boc, y ddraig fach goch, sy'n cuddio ym mhob llun. Mae cyfle i chwilio am bethau eraill yn y lluniau hefyd, yn ogystal â thrafod a holi cwestiynau rhwng plant a'i gilydd, neu rhwng rhiant a phlentyn. Cyfrol debyg i'r llyfrau Where's Wally? gyda gogwydd gwbl Gymreig i bob llun.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e10 illustrated double pages, with each spread offering a chance to look for Boc, the little red dragon, who's hiding on each page. Children and parents can also look for other things, and discuss and ask questions. A Welsh twist on the Where's Wally? books.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784619541\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784619541\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBle Mae Boc? ar Goll yn y Chwedlau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAaron, Huw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-11-23\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 297 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau Lliwio, Posau a Chwisiau (yn Gymraeg) | EN: Colouring Books, Puzzles and Quizzes (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Huw Aaron yn adnabyddus fel cartwnydd. Huw yw sylfaenydd y cylchgrawn poblogaidd Mellten, ar gyfer 7-12 oed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae ail gyfrol Ble Mae Boc? wedi glanio o’r diwedd, a'r tro hwn, fel y gwelir o'r isteitl, Ar Goll yn y Chwedlau mae Boc! Roedd y llyfr cyntaf yn werthwr gorau ac mae plant Cymru (a’u rhieni) wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am yr ail lyfr yn y gyfres boblogaidd. Diolch byth, felly, fod Huw Aaron wedi bod wrthi fel slecs yn gwneud yn siŵr ei fod yn barod erbyn y Dolig. Os nad ydych chi’n gwybod erbyn hyn, draig fach goch yw Boc sydd, rywsut neu’i gilydd, yn llwyddo i fynd ar goll ar hyd a lled Cymru. Eich tasg chi yw ei ffeindio ynghanol yr holl brysurdeb. Yn yr ail gyfrol, caiff Boc ei sugno i ganol byd y chwedlau a chael ei swyno gan yr hud a’r lledrith. Cawn ein tywys ar antur i leoedd rhyfeddol – fel y ddinas o dan y dŵr ac i deyrnas y tylwyth teg. Mae lluniau Huw Aaron mor anhygoel a lliwgar; maen nhw'n wledd go iawn i’r llygad. Gallwch dreulio oriau yn craffu ar y manylion bach difyr yn ogystal â chwilio am ein hoff gymeriad. Mae’r bydoedd mae o’n eu creu yn ffantastig ac yn llawn hiwmor. Fy hoff un yw’r Parti Llyfrau Plant, sy’n rhyw fath o deyrnged fawr i lenyddiaeth Gymraeg i blant drwy'r degawdau. Ers i’r Where’s Wally? cyntaf gael ei gyhoeddi yn y 1980au, mae llyfrau ‘chwilio’ o’r fath yn hynod o boblogaidd, gan eu bod yn wych ar gyfer llenwi amser sbâr a hefyd yn lot fawr o hwyl. Mantais Ble Mae Boc?: Ar Goll yn y Chwedlau dros lyfrau eraill tebyg yw ei fod yn cyflwyno chwedlau a thraddodiadau sy’n arbennig i ni yng Nghymru, fel y Mabinogi a Chantre’r Gwaelod. Caiff draigchwilwyr brwd ddigon o hwyl wrth chwilio ar eu pennau eu hunain, ond beth am wneud pethau’n fwy o hwyl a chyflwyno elfen o gystadleuaeth? Ras am y cyntaf! I'r rhieni a'r neiniau a'r teidiau, dyma fuddsoddiad doeth iawn, yn enwedig ar gyfer siwrneiau hirfaith yn y car! Y gobaith yw y bydd y plantos yn rhy brysur yn chwilio am Boc i ffraeo yn y set gefn. Wir i chi, mae ’na oriau o ddifyrrwch i’w cael rhwng y cloriau gan fod yna 10 tudalen ddwbl a thros 200 o drugareddau eraill i’w darganfod. Pryd bynnag y bydd gennych chi amser sbâr – wrth ddisgwyl yn syrjeri’r doctor neu ar bnawn glawog o flaen y tân – dyma gyfaill ffyddlon sy’n werth ei gael yn agos. A pheidiwch â meddwl mai llyfr i blant yn unig yw hwn. Dyma gyfrinach i chi – mae lot fawr o ffans Boc yn rhieni!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820083745142,"sku":"9781784619541","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784619541_4c4cbad3-ceea-4da2-95ce-5498c811beea.jpg?v=1790354388","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ble-mae-boc-ar-goll-yn-y-chwedlau-9781784619541","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}