{"product_id":"blas-ar-y-beibl-9781859948408","title":"Blas ar y Beibl","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlawlyfr i ieuenctid hŷn ac oedolion yn rhoi cyflwyniad hwyliog i holl gynnwys y Beibl. Addasiad Cymraeg o Bible from Scratch .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFor all who find the Bible a bit daunting, this could be just what's needed. It offers a lightning sketch of the Bible using easy-to-follow graphics and explains clearly and simply the essential meaning of every Bible book. A Welsh adaption of Bible from Scratch .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781859948408\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781859948408\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBlas ar y Beibl\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJenkins, Simon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-03-29\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau'r Gair\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHuws, Eleri\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e256 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr wedi ei wasgu i’r ymylon â hanes a ffeithiau am y Beibl yw hwn. Cyflwynir hanes y cyfnodau gwahanol yr ysgrifenwyd llyfrau'r Beibl ynddo yn gryno ond yn gynhwysfawr, ac eglurir sut y daeth yr awduron a’u geiriau at ei gilydd i greu'r Beibl. Rhoddir lle dyledus i’r prif gymeriadau a chawn ein harwain drwy ddigwyddiadau a themâu pwysicaf y Beibl. Mae pob un llyfr yn cael sylw unigol, gyda chyflwyniad hynod gynhwysfawr i’r Hen Destament a’r Testament Newydd. Trafodir y Beibl yn nhrefn y llyfrau, yna ceir adran fer ond pwysig ar yr Apocryffa dan y pennawd 'Dadleuol'! Sut ar y ddaear y llwyddwyd i gynnwys cymaint mewn 255 tudalen? Wn i ddim, ond mae Simon Jenkins wedi llwyddo i wneud hynny. Ond yn bwysicach fyth, sut y llwyddodd i wneud hynny mewn ffordd mor hwyliog a diddorol? Oherwydd nid awdur yn unig yw Simon Jenkins, ond darlunydd hefyd, ac mae’r darluniau bach quirky a’r deiagramau effeithiol yn dod â sawl agwedd ‘anodd’ o’r Beibl yn fyw. Ceir tablau diddorol hefyd, fel 'Ble mae’r Ddameg?' sy’n nodi’r damhegion a lle i gael hyd iddyn nhw yn y gwahanol Efengylau. Ar ddechrau’r llyfr hefyd ceir cynllun darllen y Beibl mewn 30 diwrnod, sy’n adnodd gwych i unrhyw un sydd am ei ddarllen ond yn ansicr sut i fynd ati. Mae hiwmor yr awdur hefyd yn ychwanegu at y gyfrol ac mi fydd yn bendant yn apelio at y rhai yn eu harddegau (a'r rhai hŷn, fel fi!). Ar ddechrau ei gyflwyniad i’r Hen Destament cawn ddarlun o swyddog P.R. wrth ei ddesg yn dweud: 'Ydy, mae ‘Hen’ yn rhy negyddol. Beth am Y Testament Hŷn neu Y Testament Llai ifanc?' Ac yn ei gyflwyniad i’r Testament Newydd cawn ddarlun traddodiadol ei naws o’r geni, gyda swigod siarad y gwŷr doeth yn nodi: 'Fe ddown ag aur a thus ... a thedi bêr!' Yn ogystal â chyflwyno ffeithiau a stori’r Beibl mae Jenkins hefyd yn cyflwyno agweddau gwahanol o draddodiadau Cristnogol amrywiol. Mae hefyd yn trafod yn fyr pedwar prif safbwynt ar ysbrydoliaeth y Beibl ac yn gwneud hynny yn deg. Peidiwch â disgwyl i Simon Jenkins eich arwain ar sut i feddwl neu beth i’w gredu, a hynny yn y bôn ydy un o brif rinweddau’r llyfr i mi. Mae’n gwbwl wrthrychol, er ei fod yn nodi yn amlwg yn ei gyflwyniad i’r llyfr fod ei brofiad cyntaf o ddarllen y Beibl – Efengyl Ioan yn benodol – wedi golygu iddo ‘gyfarfod â Iesu drosof fy hun’. O'i ddiwyg, gellid cymryd yn ganiataol mai llyfr i bobl ifanc ydy hwn, ond byddwn yn annog oedolion sydd am wybod mwy am y Beibl hefyd i’w ddarllen. Byddai’n adnodd gwych yn unrhyw adran addysg grefyddol mewn ysgol neu yn yr ysgol Sul, ond mae hefyd yn gyfrol ddefnyddiol i'w chael ar y silff gartref i unrhyw un sydd am wybod mwy am y llyfr enwocaf erioed!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821002494326,"sku":"9781859948408","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781859948408.jpg?v=1790362692","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/blas-ar-y-beibl-9781859948408","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}