{"product_id":"beth-am-gynnau-tan-atgofion-a-cherddi-atgofion-a-cherddi-ann-fychan-9781845248000","title":"Beth am gynnau tân - Atgofion a cherddi — Atgofion a cherddi Ann Fychan","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTelynegwraig a sgwennwr caneuon oedd Ann Fychan a fu farw yn 2025. Mae'r gyfrol yn cynnwys teyrngedau a phortreadau a detholiad o'i cherddi a phenillion. Gwraig egnïol a fu'n un o wir gynheiliaid y diwylliant Cymraeg ym Maldwyn a thu hwnt, un o sêr Talwrn y Beirdd am gyfnod hir, a'r bardd a luniodd eiriau un o ganeuon enwocaf y grŵp Plethyn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAnn Fychan was a lyricist and songwriter who died in 2025. The volume includes tributes and portraits and a selection of her poems and verses.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845248000\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845248000\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBeth am gynnau tân - Atgofion a cherddi — Atgofion a cherddi Ann Fychan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAtgofion a cherddi Ann Fychan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFychan, Ann\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2026-07-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Cyril\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e148 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 198 mm; depth 8 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNo FSC or PEFC logo\/certification declared\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY bardd Cyril Jones oedd enillydd Coron Eisteddfod Aberystwyth 1992. Cyhoeddodd gyfrol o'i waith, Eco'r Gweld, gyda Barddas yn 2012. Cyhoeddodd gyfrolau gyda Gwasg Carreg Gwalch: Maldwyn (Cyfres Bröydd Cymru) a Man Gwyn y Smotyn Du (Sgrifenwyr a Beirdd Ardal Unigryw yr Undodwyr yng Ngheredigion).\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrannodd Ann i ddiwylliant ei hardal ym Maldwyn a Chymru gyfan gydol ei hoes. Lluniodd bytiau hunangofiannol am ei phlentyndod ym mhentre Pennant, Llanbryn-mair, cyn i’w rhieni, Islwyn a Gwyneira Lewis, benderfynu symud i’r Pandy yn yr un plwyf i gadw siop. Mae’r rheiny yn y gyfrol, yn ddarlun gwiw o blentyndod yn y cefndir a’r cyfnod hwnnw. Roedd Ann yn hyfforddreg llefarwyr a beirniad mewn eisteddfodau ledled y wlad. Dychwelodd o’r Coleg Normal i fod yn athrawes yn y Drenewydd, Llanbryn-mair a Glantwymyn. Ar wahanol gyfnodau bu’n athrawes bro a dirprwy brifathrawes. Mae’r gofal a’r parch at eiriau yn amlwg yn ei gwaith creadigol ei hun hefyd. Yn nyddiau Gerallt Lloyd Owen, roedd ef fel Meuryn yn dotio at y tinc telynegol oedd yn ei cherddi a’i phenillion telyn. Does ryfedd i Dafydd Wyn, ei chyd-aelod yn nhîm Talwrn y Beirdd Bro Ddyfi, ei galw yn ‘llawforwyn crefft llefaru’, gan gwblhau ei englyn â’r disgrifiad ohoni yn dysgu ‘to ’rôl to nes troi y tŷ’n\/ Athen i’n gwasanaethu’. Yr un yw byrdwn Gerallt Lloyd Owen yn ei englyn yntau iddi: Canaf i’r un fu’n cynnal ei haelwyd a’i haelwyd yn ardal; ym min Dyfi mae’n dyfal gadw tŷ heb godi tâl. Rhan o deyrnged i Ann Fychan (1941–2025), Barn Tachwedd 2025 ‘Arferai lunio cerddi yn y mesurau rhydd ac roedd graen arbennig ar ei gwaith bob amser, yn enwedig penillion ar batrwm y penillion telyn, telynegion a'i cherddi ysgafn. Wele un pennill telyn sy’n nodweddu’i chrefft: Cododd Deio’n gynnar, gynnar, Codi’n gynt na’r haul a’r adar, Ond ni chododd ddigon bore I ddal Mari Llwyn yr Hendre. Yn ogystal ag ysgrifennu geiriau ar gyfer talyrnau, lluniodd Ann ddegau o eiriau caneuon ar gyfer grwpiau canu ysgafn, lleol a chenedlaethol. Y geiriau enwocaf o blith y rheini yw cân anthemig Plethyn ‘Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?’’\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820629496182,"sku":"9781845248000","price":8.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845248000.jpg?v=1790358882","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/beth-am-gynnau-tan-atgofion-a-cherddi-atgofion-a-cherddi-ann-fychan-9781845248000","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}