{"product_id":"beibl-ar-ferched-y-9781859949016","title":"Beibl Ar... Ferched, Y","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn y gyfrol hon mae Arfon Jones yn ceisio dangos beth yn union mae'r Beibl yn ei ddweud am ferched, a sut y gellir deall a dehongli rhai gosodiadau 'anodd' yng ngoleuni'r cyd-destun gwreiddiol. Dengys sut y cafodd ystyron rhai geiriau Hebraeg a Groeg eu camddeall a'u camddefnyddio.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn this volume, Arfon Jones attempts to reveal what exactly the Bible says about women, and how some 'difficult' statements may be understood and interpreted. He shows how some Hebrew and Greek words have been misunderstood and misused.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781859949016\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781859949016\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBeibl Ar... Ferched, Y\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Arfon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-07-31\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau'r Gair\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLleiafrif reit fychan o blith darllenwyr Cymraeg sy’n malio ffeuen am beth y mae’r Beibl yn ei ddweud am ddim. Ymhlith credinwyr ceir amrywiaeth agweddau a chryn ddrwgdybiaeth rhwng ‘efengylwyr’ a ‘rhyddfrydwyr’. Fel y dywed Arfon Jones, awdur y llyfryn hwn: “ Y cwestiwn sylfaenol i’w ofyn ydy, sut mae dehongli’r Ysgrythur yn gywir? ” Mae’r awdur yn mynd ati i ymaflyd codwm â’r testunau hynny a ddefnyddiwyd dros y canrifoedd i gadarnhau agweddau patriarchaidd tuag at wragedd. Y mae gennym destunau o gyfnodau patriarchaidd, wedi’u hysgrifennu gan batriarchiaid, am batriarchiaid, wedi’u cyfieithu gan batriarchiaid i gymdeithasau hierarchaidd a phatriarchaidd. Ydi’r eglwysi drwy’r canrifoedd heb ddeall yn iawn beth oedd her chwyldroadol Iesu o Nasareth? Her, nid yn unig i’w gyfnod ond i’r canrifoedd a fu’n ystumio, yn camddehongli, ac yn batriarchaidd lynu wrth yr hyn a dybient oedd yn amlwg, bod Duw wedi bwriadu i wragedd fod am byth yn israddol a distaw, ac ufudd. Chwa o awel iach felly yw’r llyfryn bach hwn, nid yn unig i geidwadwyr sy’n glynu at beth a dybir yw ‘ystyr amlwg’ y testunau dadleuol, ond hefyd i batriarchiaid ‘rhyddfrydol’ sy’n gwadu’r hen ddehongliad heb gloddio’n ddyfnach. Y mae’r awdur, sy’n adnabyddus fel cyfieithydd y beibl.net ac sydd wedi gweithio’n ymroddedig dros fudiadau ‘efengylaidd’ eu hethos, yn barchus o’r testun ac yn radical ei ddehongliadau, gan ddod i’r casgliad bod her Iesu i’w ddilynwyr heb ei hwynebu gan yr eglwysi. Mae ei ddisgrifiadau o batriarchaeth yr Hen Destament yn ddeifiol; ei ddisgrifiadau o batriarchaeth Roegaidd a Rhufeinig yr un mor ddeifiol, a’i waith ieithyddol ar y testunau yn fywiog a darllenadwy. Trwy ei ddisgrifiadau gwelwn yn glir sut y bu i batriarchaeth ystumio a dofi neges y Testament Newydd a dangos hefyd sut y bu i natur iaith, a thueddiadau cyfieithwyr danseilio radicaliaeth y neges, yr Efengyl, y Newyddion Da. Mae pedair pennod y llyfryn (‘Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu’, ‘Iesu a Merched’, ‘Paul a’r apostolion’, ‘Lle’r ferch yn yr eglwys’) yn sail defnyddiol a deallus ar gyfer grwpiau trafod – a bydd y ceidwadwyr a’r ‘radicaliaid’ ar eu hennill o’u darllen er mor wahanol yw eu safbwyntiau cychwynnol. Mae’r hen agweddau gwryw nawddoglyd tuag at ferched yn peri embaras erbyn heddiw. Yma cawn weld bod y Beibl â neges fywiol, sail i berthynas newydd nad yw’n hanfodol ymosodol nac yn gwadu dadleuon me too . Gwyddom erbyn hyn bod rhychwant eang rhwng y ddau begwn gwryw a benyw – ond dyna destun llyfryn arall rywbryd yn y dyfodol!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821004689782,"sku":"9781859949016","price":3.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781859949016_3b9db50d-94b1-4833-ac8e-41ddb8878dbb.jpg?v=1790362734","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/beibl-ar-ferched-y-9781859949016","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}