{"product_id":"asterix-a-r-pair-pres-9781906587338","title":"Asterix a'r Pair Pres","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCaiff Asterix y swydd o ofalu am grochan llawn arian sy'n eiddo i lwyth cyfagos. Ond dros nos mae'r pair yn mynd ar goll, sy'n broblem i enw da'r pennaeth Pwyllpendefix. Tasg Asterix yw talu'r ddyled yn ôl, ond er nad oes ganddo fawr o drwyn am fusnes, mae gan Asterix dipyn o drwyn wrth ddeall y natur ddynol mewn antur sy'n mynd i'r afael ag oferedd golud bydol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAsterix is tasked with guarding a cauldron full of a neighbouring tribe's money. Under the cover of darkness the pot of cash goes missing, which is of great concern to chief Pwyllpendefix whose honour has been blemished. Asterix has to repay the lost money - without a head for business, only a nose to sniff out the greedy culprit. A Welsh adaptation of Asterix et le chaudron .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781906587338\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781906587338\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAsterix a'r Pair Pres\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGoscinny, René; Uderzo, Albert\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-08-22\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDalen (Llyfrau) Cyf\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Alun Ceri\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e218 × 287 mm; depth 5 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r clasur yn ei ôl! Mae’r Galiad gwallt golau a’i ffrind gorau Obelix unwaith eto yn mynd â ni ar antur, a hynny yn y Gymraeg, gan gludo plant heddiw yn ôl i fyd ffyrnig y gwrthryfel a’r byd lle mae’r Galiaid gwrol yn amddiffyn eu tir. Y flwyddyn 50 cyn Crist yw hi, felly byddwch yn barod am ambell ffrwgwd! Rhufeinwyr, rhaib, rhyfela, rhaffu celwyddau, ac mae’r pair pres yn creu stŵr di-ben-draw yng Ngâl. A hwythau wedi hen arfer â brwydro, a rhoi clatsen yn ail natur i Obelix y cawr o ddyn, beth sydd yn digwydd pan fo un llwyth Galiaidd yn brwydro yn erbyn un arall? Wel, yn amlwg mae’n rhaid Dalpenrhesum! Mae Asterix yn cael ei nerth i gyd o ddiod hud y Derwydd Gwyddoniadix ac ef yw’r mwyaf dibynnol o lwyth Pwyllpendefix. Y tro hwn, mae angen ei holl nerth wrth iddo warchod pair Dicsiondafix, ‘yr hen folgi barus’, oddi wrth y dyn trethi sydd ar ei drywydd. Ond mae tro twyllodrus yn y stori stribed hon, a does neb yn taflu llwch i lygaid Asterix. A does fiw i chi ei groesi! Mae’r gyfres yma yn gweithio’n arbennig yn y Gymraeg ac yn addas iawn i ddarllenwyr o bob oed. Gyda llu o acenion yn cael eu rhoi i’r cymeriadau, bron nad ydych yn dychmygu mai yng Nghymru y cafodd hon ei seilio! Mae llyfrau eraill am hanes y Galiad byd-enwog hwn ar gael yn y Gymraeg a bob un wan jac werth ei darllen!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821063999862,"sku":"9781906587338","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781906587338_fbe9b6d4-c32f-4c46-8d05-03ef5d3f39b2.jpg?v=1790363413","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/asterix-a-r-pair-pres-9781906587338","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}