{"product_id":"ar-drywydd-llofrudd-9781784615697","title":"Ar Drywydd Llofrudd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae'n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi sy'n boblogaidd tu hwnt ar hyn o bryd. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni mae ddau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2018.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis dark, detective novel set in Aberystwyth, echoes contemporary popular adventure stories and Scandi television series. The discovery of a body on the sand dunes sets two detectives, Taliesin and MJ, on the trail of the killer. Reprint. First Published in 2018.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784615697\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784615697\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr Drywydd Llofrudd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavies, Alun\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-11-02\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e256 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e194 × 130 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Alun Davies yn beiriannydd meddalwedd ac yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun – Deeg Consultancy – yn cynnig gwasanaeth technoleg y we a chyfryngau cymdeithasol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMewn broliant ar wefan y Lolfa, ‘gafaelgar, tywyll, a chyfrwys’ yw'r disgrifiad o’r nofel hon. Mae’r ‘tywyll’ yn cyfeirio at arddull Scandi-noir, arddull storïau o Sgandinafia a’r gwledydd Nordig, sy’n portreadu’r tensiwn rhwng rhyddfrydiaeth a chyfiawnder arwynebol cymdeithas yno a’r troseddau erchyll all ddigwydd dan yr wyneb. Mae’n arddull boblogaidd erbyn hyn, ac wedi ehangu i’r sgrin ffilm a theledu trwy gyfresi fel The Killing – ac yng Nghymru wrth gwrs, Y Gwyll . Mae’r nofel hon yn driw i rai o nodweddion eraill Scandi-noir. Mae’r awyrgylch yn troi’n ddu a bygythiol. Mae’r awdur yn pori trwy gyfrinachau brawychus, ac yn plymio i faes seicoleg gymhleth. Mae’r naratif yn syml ac uniongyrchol – does dim gwastraffu geiriau, ac mae gan y ditectifs broblemau personol sy’n eu gwneud yn fwy credadwy. Ac fe gawn y stori hon trwy lygaid nid un, ond dau dditectif, sef Taliesin MacLeavy a Ben Morgan-Jones, neu ‘MJ’. Mae’r ddau yn adrodd yn bersonol ac yn y presennol, am yn ail drwy’r nofel – arddull fentrus na fyddai ddim wrth ddant pawb, efallai, oherwydd y perygl y gall darllenwyr gymysgu rhwng y ddau. Ddigwyddodd hynny ddim i mi. Awn yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau fesul pennod, ac mae’r ddau gymeriad mor wahanol i’w gilydd, wnes i ddim colli trywydd y stori ar unrhyw adeg. Ac yn wir, daeth yn amlwg fod hon yn arddull sy’n caniatáu dealltwriaeth ddyfnach o’r stori, a’r cymeriadau. Tuag at ddiwedd y nofel, cawn glywed trydydd llais hefyd, sy’n gymorth mawr o ran taflu goleuni ar yr hyn sy’n digwydd. Er mai’r bwriad oedd cynnig genre wahanol i arddull whodunnit ffuglen dditectif draddodiadol, mae’r elfen honno’n rhan effeithiol hefyd o’r stori hon. Does gan yr heddlu ar y cychwyn ddim un math o gliw pwy yw’r troseddwr, ac mae’r daith sy’n ein harwain ato yn y diwedd yn gyffrous, yn annisgwyl, yn syndod – ac yn sicr felly, yn afaelgar. Mae holl nodweddion arferol Scandi-noir wedi eu plethu at ei gilydd yn y nofel hon mewn ffordd gywrain a chyfrwys hefyd. Fy mwriad oedd darllen hon dros gyfnod o ryw wythnos. Unwaith y dechreuais, wnes i ddim oedi tan y dudalen olaf. Dwi’n edrych ymlaen at y gyfrol nesaf.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819970138486,"sku":"9781784615697","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784615697_4df9d00e-096e-4670-9571-0091d08ec7cf.jpg?v=1790354153","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ar-drywydd-llofrudd-9781784615697","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}