{"product_id":"ar-drywydd-enwau-lleoedd-9781800990883","title":"Ar Drywydd Enwau Lleoedd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol a gyhoeddir i ddathlu pen blwydd yr Athro Gwynedd O. Pierce yn 100 oed yn 2021. Ceir ynddi 13 erthygl Gymraeg, a 7 erthygl Saesneg, gan ystod eang o bobl. Mae'r testunau yn amrywio o enwau lleiniau pysgota ger Caernarfon ac enwau strydoedd y dref honno i enwau penrhynnau yng Nghernyw; o enwau strydoedd Caerdydd i bwysigrwydd enwau lleoedd yng ngherddi'r Oesoedd Canol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA volume published to celebrate Professor Gwynedd O. Pierce's hundreth birthday in 2021.The volume contains 13 Welsh articles and 7 in English. The subject matter of the articles varies from Caernarfon street names and fishing flaps to the names of capes in Cornwall; from Cardiff street names to the importance of place names in Medieval Welsh poetry.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800990883\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800990883\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr Drywydd Enwau Lleoedd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCymru, Cymdeithas Enwau Lleoedd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£14.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£14.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-07-31\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBevan, Gareth A.; Fychan, G. Angharad; Owen, Hywel Wyn; Owen, Ann Parry\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e202 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e156 × 234 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Bywyd ac Arferion Cymru (yn Gymraeg) | EN: Welsh Life and Customs (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRoedd yr Athro Emeritws Gwynedd O. Pierce yn ddarlithydd poblogaidd, ymroddedig a hoffus o fewn Coleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd, am flynyddoedd. Penodwyd ef yn Athro Hanes Cymru yno yn 1975, cadair a lenwodd i'r ymylon nes iddo ymddeol yn 1988. Drwy gydol ei yrfa datblygodd yn un o'n prif awdurdodau ar hanes enwau lleoedd yng Nghymru, gan iddo gyhoeddi'n gyson yn y maes arbennig hwn yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, a cheir rhestr hwylus o'i gyhoeddiadau yn y maes o fewn y gyfrol deyrnged hyfryd hon. Ymhlith ei gyhoeddiadau mwyaf sylweddol yn y maes mae The Place-names of Dinas Powys Hundred (1968), campwaith yn y maes hwn a seiliwyd i raddau ar ei draethawd MA. Bu'n rhaid i Gwynedd Pierce ymgodymu â Hen Gymraeg, Eingl-Sacsoneg, Norseg, Lladin, a Ffrangeg, heb sôn am Gymraeg a Saesneg cyfoes, er mwyn datgelu cyfoeth enwau'r fro. Dylid nodi hefyd ei gyfrol ddiweddarach, Dan y Bargoed: Rhai o Enwau Ardal Cwm Rhymni , (1990), a chyfrannodd yn ogystal at nifer o gylchgronau a chyfrolau academaidd dros y blynyddoedd. Bu Gwynedd Pierce hefyd yn trafod enwau lleoedd yn y Western Mail , Y Dinesydd , sef papur bro poblogaidd dinas Caerdydd, a’r Gadwyn , sef cylchgrawn ei gapel, Eglwys y Crwys yng Nghaerdydd, yn ogystal â chyfrannu at lyfrau poblogaidd ond safonol megis y ddwy gyfrol Ar Draws Gwlad . Tybiaf mai Gwynedd Pierce yw'r cyntaf o'n haneswyr Cymreig i ddathlu ei ben-blwydd yn gant oed, gan ddal yn finiog ei feddwl ac yn gymharol iach ei gorff hyd heddiw. Pleser arbennig yw cael gweld lluniau ohono yn y wasg yn dal y llyfr hwn yn ei ddwylo, yn amlwg yn werthfawrogol o’r deyrnged y mae'n ei haeddu. A rhaid llongyfarch y golygyddion, pob un yn ysgolhaig yn ei faes ei hun, yn wresog ar eu llwyddiant yn cywain ynghyd dîm o gyfranwyr mor ddisglair. Hwn yw'r llyfr cyntaf oll a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, cymdeithas a ddaeth i fodolaeth yn 2011. Yn y flwyddyn ganlynol penodwyd Gwynedd yn llywydd anrhydeddus arni. Ceir cyfle i ddarllen hanes y gymdeithas a'i champau nodedig dros y deng mlynedd olaf yn erthygl gryno o waith Rhian Parry. O fewn y llyfr ceir tair erthygl ar ddeg yn Gymraeg a saith yn Saesneg, pob un ohonynt o'r safon uchaf ac yn bleser ei darllen, gyda’r pynciau a drafodir yn eang eithriadol eu cwmpas. Mae rhai o'r ysgrifau yn rhoi ystyriaeth lawn i enwau lleoedd mewn ardaloedd mor amrywiol â strydoedd tref Aberaeron, strydoedd dinas Caerdydd (mewn cysylltiad â gyrfa hynod yr hynafiaethydd adnabyddus John Hobson Matthews, 1858-1914), a thref Chaernarfon (lle ganed Gwynedd Pierce a Glenda Carr, awdur y cyfraniad hwn, fel ei gilydd). Mae erthyglau eraill yn trafod enwau lleoedd o fewn Bont-goch, neu Elerch, rhanbarth gwledig diarffordd yng ngogledd Ceredigion, lle mae'r awdur Richard E. Huws yn byw ers rhai blynyddoedd bellach, ardal gyfagos y Borth nid nepell o Aberystwyth, a'r enwau hyfryd, amrywiol eu natur, sydd yn addurno rhanbarth arfordir y Fenai – o dref Caernarfon i Fae Caernarfon. Yma ceir nifer o gyfeiriadau pwysig a diddorol at enwau lleiniau pysgota a throbyllau sydd yn y Fenai. A meistrolgar yw ymdriniaeth Oliver Padel, arbenigwr digymar yn y maes hwn ac astudiaethau Cernyweg yn gyffredinol, ar y gydberthynas rhwng tref Penarth, sir Forgannwg, a llefydd o'r un enw, yn fwyaf arbennig o fewn Cernyw lle ceir un ar ddeg o leoedd â'r enw Penarth. Arbennig o ddadlennol hefyd yw cyfraniad Eleri Hedd James ar yr ymgyrchoedd dygn a wnaed ers blynyddoedd bellach i geisio safoni enwau lleoedd o fewn Cymru, mudiad y bu Gwynedd Pierce yn ei gefnogi'n frwd ac yn ymarferol. Fel y gwelwn yma, bu Gwynedd Pierce yntau a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru fel ei gilydd yn lew yn arwain nifer o brosiectau cymunedol i nodi a rhoi ar gof a chadw ein henwau lleoedd traddodiadol yng Nghymru. Ceir ambell gyfraniad hynod o ysgolheigaidd o fewn y casgliad hwn, gan gynnwys ysgrifau o waith arbenigwyr o'r Alban a'r Iwerddon. Yn eu plith mae ymdriniaeth yr Athro Ann Parry Owen ar enwau lleoedd sydd i’w cael o fewn ein llawysgrifau canoloesol, yn bennaf yn ystod y deuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg, ac yn ddiweddarach ymhlith cynnyrch nodedig Beirdd yr Uchelwyr sydd yn fwrlwm o gyfeiriadau at enwau lleoedd, amryw ohonynt, ysywaeth, yn lled niwlog eu harwyddocâd i ninnau heddiw ond yn hynod bwysig ar y pryd ac yn hanesyddol. Hyfryd yw cael darllen y teyrngedau cynnes a gynhwysir o fewn y gyfrol hon, yn fwyaf arbennig erthygl Dei Tomos. Mae llawer mwy o waith yn aros i'w wneud ar enwau lleoedd yng Nghymru, fel mewn rhanbarthau eraill wrth gwrs, ond mae Gwynedd Pierce yn dal i fod yn ysbrydoliaeth i bawb sydd wedi mentro i'r maes hanfodol hwn. Hyfryd a phleserus arbennig, felly, yw cael y cyfle i gyfarch Gwynedd ar ei ben-blwydd yn gan mlwydd oed. Cymaint fu ei gyfraniad i'r maes pwysig hwn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820264296822,"sku":"9781800990883","price":14.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800990883_b397ad81-8683-4c6b-9b50-b412f8d3a351.jpg?v=1790355002","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ar-drywydd-enwau-lleoedd-9781800990883","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}