{"product_id":"ar-adain-can-9781913996697","title":"Ar Adain Cân","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel hanesyddol sy'n stori garu, ac yn llawer mwy. Wedi ei gosod yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, mae'n dilyn hynt cantores ifanc o ardal Clydach a'i pherthynas â Sais ifanc o gefndir hollol wahanol. Yn gefndir i'w stori mae bywyd Cwm Rhondda, y Rhyfel Cartref yn Sbaen a bywyd lliwgar Llundain - o'r Academi Gerddorol i'r clybiau nos.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA romantic novel set in the Rhondda Valley, Spain and London during the Second World War. A talented young Welsh singer meets an English man from a totally different background. Will their relationship prosper?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781913996697\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781913996697\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr Adain Cân\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eThomas, Gareth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2023-05-19\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e280 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 200 mm; depth 14 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOs oes gennych rywfaint o ddiddordeb mewn hanes diweddar, yn arbennig 30au a 40au’r ganrif ddiwethaf, ac yn mwynhau stori garu dda, yna mae hon yn nofel y dylech ei darllen. Wedi dweud taw stori garu sydd yma, mae’r nofel yn llawer mwy na hynny – mae’n gofnod cymdeithasol o Brydain y cyfnod, mae’n wleidyddol, mae’n llawn gwrthdaro. Y man cychwyn yw carwriaeth Siân a George – y naill o Gwm Rhondda a’r llall o Lundain, un ohonynt o gefndir dosbarth gweithiol a’r llall o deulu tipyn mwy breintiedig, (yn ariannol, beth bynnag). Maent yn cyfarfod mewn coleg yn Llundain, y ddau yn gerddorion. Mae’r garwriaeth yn un llawn heriau, a’r darllenydd yn cael cip ar emosiynau amrwd iawn y pâr ifanc. “Felly stori garu ddigon cyffredin,” meddech chi. Efallai wir, ond yr hyn sy’n codi’r nofel hon i dir uwch yw cyfoeth yr hanes sy’n cael ei wau’n gelfydd drwy’r plot. Mae ôl gwaith ymchwil manwl ar y nofel a hynny i’w ganmol. Er enghraifft, ceir cyfeiriad at ffatrïoedd ffrwydron yr Ail Ryfel Byd a gwaith merched yno; ond nid cyfeiriad yn unig a geir, manylir ar effaith y defnyddiau crai ar iechyd y merched. Mae cyfyngderau a heriau eraill y rhyfel yn rhan bwysig o’r nofel, yn creu naws arbennig y cyfnod. Down i adnabod dwy ifaciwî ifanc a’u ciamocs wrth iddynt ymgartrefu yn y Cwm, blaswn y bwyd plaen a theimlwn effaith y dogni, darllenwn gyda’r glowyr yn y Miners Institute a theimlwn eu hawch am addysg a chyfiawnder, a chydymdeimlwn â’r merched yn eu dawnsfeydd un-rhyw. Yn sgil diddordeb y gantores Siân mewn canu mae miwsig y cyfnod hefyd i’w glywed. Ond mae hanes cyfraniad y Brigadau Rhyngwladol i Ryfel Cartref Sbaen a’r ymdrech i sicrhau Sbaen Weriniaethol a Democrataidd yn fwy anghyfarwydd ac yn wirioneddol ddifyr. Mae’n ffaith fod nifer o lowyr de Cymru, dan effaith y Blaid Gomiwnyddol, wedi gadael y wlad yn anghyfreithlon er mwyn ymuno â’r lluoedd yma. Yn y nofel hon mae un o frodyr Siân yn gwneud hynny a daw’r hanes yn fyw yn sgil ei brofiad e. Mae’r nofel hon yn bytiog o ran arddull, ond nid cwyn yw hon. Symudwn o stori Siân i stori George, a chawn deithio o Lundain i’r Rhondda, o glwb nos i gapel, a'r cyfan hyn yn gwneud y darllen yn hawdd a hwylus. Pe na bai’r disgrifiadau o’r strydoedd cul, y tipiau glo, y Stiwt a’r capeli di-ri yn ddigon i leoli llawer o’r stori yng Nghwm Rhondda, mae’r dafodiaith sy’n britho’r nofel (a hynny heb ei gwneud yn nofel anghyraeddadwy i’r rhelyw), yn glo ar y cyfan. A ninnau'n byw mewn oes lle mae tafodiaith ar drai, mae darllen nofel fel hon yn atgoffa rhywun mor bert y gall y dweud fod, a chymaint y cyfoethogir y Gymraeg o roi parch i iaith lafar amrywiol ein hardaloedd. Gobeithio y cawn nofel arall yn fuan gan Gareth Thomas – melys moes mwy.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821254709622,"sku":"9781913996697","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781913996697_d65677e9-c65e-468a-beda-9b760e785795.jpg?v=1790366392","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ar-adain-can-9781913996697","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}