{"product_id":"anturiaethau-r-brenin-arthur-9781845279462","title":"Anturiaethau'r Brenin Arthur","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePwy yw'r arwr sydd ei angen ar Gymru heddiw? Mae criw o blant o Fannau Brycheiniog yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yr ateb! Tasg ddigon syml yw dod o hyd i'r Brenin Arthur, ei ddeffro a'i berswadio i'w helpu i achub y byd. Ond does neb yn barod am yr antur fydd yn dilyn...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWho is the hero that Wales needs today? A group of children from Bannau Brycheiniog think they know the answer! It will be an easy task to find King Arthur, to wake him and persuade him to help them to save the world. But they are unprepared for the adventure that follows...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845279462\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845279462\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAnturiaethau'r Brenin Arthur\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eThomas, Rebecca\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2024-04-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e124 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 198 mm; depth 12 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDaw Rebecca Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol. Wedi treulio cyfnodau yn astudio a gweithio ym Mhrifysgolion Caergrawnt a Bangor, mae bellach yn ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd. Hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol yw ei harbenigedd. Mae'n awdur dwy nofel hanesyddol – Dan Gysgod y Frenhines (2022) a Y Castell ar y Dŵr (2023)\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY peth cynta sy’n taro rhywun am y llyfr hwn ydy’r clawr hynod drawiadol. Mae’n sicr yn ennyn diddordeb yn syth, gyda darluniau Lleucu Gwenllian yn dangos criw o bobl ifanc yn teithio ar fws gyda chymeriad coronog, ac eitemau amrywiol yn eu dwylo. Yn ogystal â’r clawr arbennig, mae pethau’n argoeli’n dda am stori antur gan fod map ar ddechrau’r gyfrol! Wrth fodio drwy’r tudalennau cyntaf, amlygir ar unwaith fod yma gyfrol wahanol ac uchelgeisiol, oherwydd caiff y darllenydd ei groesawu gan ddiagram lliwgar yn arddangos yr hyn sy’n drysu’r Brenin Arthur, ac yna sawl tudalen sy’n adrodd sgwrs grŵp dros negeseuon ffôn. Mae’r cyflwyniad bywiog hwn yn sicr o fod at ddant y gynulleidfa darged o bobl ifanc. Yr hyn a geir yma yw stori am griw o blant Blwyddyn 9 sy’n mynd ar antur i weld os gallan nhw ddod o hyd i’r Brenin Arthur yn ystod trip ysgol i Graig y Ddinas. Yn ogystal â chynnwys rhywfaint o wersi hanes, mae’r thema o ofalu am yr amgylchedd ac wynebu’r argyfwng hinsawdd yn rhedeg fel llinyn drwy’r stori. Mae’r criw yn awyddus i ddeffro un o arweinwyr y gorffennol, gan nad yw arweinwyr y presennol yn gwrando ar eu pryderon. Maen nhw am weld a wnaiff arweinwyr a chwmnïau mawr wrando ar lais y Brenin Arthur. Cyffyrddir ar bynciau llosg eraill hefyd, gan gynnwys bwlio ar-lein a thawelu lleisiau eraill er mwyn rheoli. Mae neges amlwg arall yma hefyd, sef bod gan bawb gymeriad gwahanol, a bod hynny’n iawn – gan fod gan bob unigolyn ei nodweddion sy’n ei wneud yn berson arbennig. Mae’r penodau a’r stori yn neidio rhwng profiad y Brenin Arthur a phrofiadau’r bobl ifanc, ac oherwydd hynny mae tipyn o gyflymder i’r stori wrth i’r darllenydd fod yn awyddus i ddarllen ymlaen i weld sut mae’r stori’n datblygu. Mae’r awdur yn adeiladu tensiwn yn gelfydd iawn, a hynny dro ar ôl tro – eto, gan sicrhau diddordeb y darllenydd a’i annog i barhau â’r darllen. Mae’r stori’n llawn cyffro, ac fe ychwanegir at naws y stori trwy ddisgrifiadau gwych o deimladau ac emosiynau’r cymeriadau. Caiff y darllenydd gyfleoedd i ddod i adnabod yr holl gymeriadau lliwgar a diddorol, ac mae sawl disgrifiad yn codi gwên. Yn ychwanegol, mae ’chydig o hiwmor i’w gael man hyn a man draw, yn bennaf wrth i gymeriad o’r gorffennol pell geisio deall y presennol a’i ryfeddodau. Dyma gyfrol werth chweil i unrhyw un sy’n hoffi ’chydig o antur ar ffurf stori sy’n symud yn gyflym. A’r peth olaf sy’n taro rhywun yw’r tro bach annisgwyl yn y gynffon – bydd rhaid i chi ddarllen hyd y dudalen olaf cyn ei ddarganfod!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820805656950,"sku":"9781845279462","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845279462_9bfc703f-8b9f-4be7-9928-db5f3b2647fa.jpg?v=1790360753","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/anturiaethau-r-brenin-arthur-9781845279462","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}