{"product_id":"alecs-rider-3-traeth-sgerbwd-9781855969605","title":"Alecs Rider: 3. Traeth Sgerbwd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Alecs Rider, yr archysbïwr anfoddog yn ei arddegau, yn wynebu'i sialens fwyaf peryglus eto. Ar ynys breifat ger Ciwba, mae'r Cadfridog Sarov gwallgof o Rwsia wrthi'n dyfeisio cynlluniau ffrwydrol i ail ysgrifennu'r llyfrau hanes. Ar ei ben ei hun, gyda help dim byd ond llond llaw o ddyfeisiau cywrain, mae'n rhaid i Alecs ei drechu. Addas i ddarllenwyr 9-14 oed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781855969605\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781855969605\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAlecs Rider: 3. Traeth Sgerbwd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHorowitz, Anthony\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-09-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEvans, Grey\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e354 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e129 × 198 mm; depth 15 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn y drydedd nofel o gyfres Alecs Rider, cawn fynd ar daith dros fôr y Caribî i Cayo Esqueleto neu Draeth Sgerbwd, ac yn syth, glaniwn mewn byd dieithr llawn dirgel a chwilfrydedd. Siarcod, llofruddwyr, bomiau niwclear – does dim diwedd i’r ‘dyfroedd dyfnion’ ym myd Alecs Rider. O ran lleoliad mae hi'n ein hatgoffa, mewn ffordd, o stori fôr-ladron ac mae anturiaethau Alecs ar yr ynys gudd hon yng Nghiwba yn rhoi’r darllenydd ar bigau’r drain drwyddi draw. Ond nid trysor yw nod y môr-ladron yn y stori hon gan mai cadfridog Rwsieg gwallgo sydd wrth wraidd problemau Alecs ar yr ynys – a’i nod yn fygythiad enbyd i'r byd i gyd. Nid a’i fryd ar ddwyn llong y mae’r capten hwn chwaith, ond ar fywyd Alecs. Pan gaiff Alecs ei herwgipio a’i gadw fel caethwas am gyfnod, mae Cadfridog Sarov yn daer fod Alecs yn medru bod o ddefnydd iddo ac mae’r ddau yn gadael yr ynys am Rwsia bell a gwallgofrwydd Sarov yn mynnu ei fod am fabwysiadu arwr y nofel. Ond wrth gwrs, mae Alecs fyth a beunydd â'i ddwylo ‘tadol’ yn rheoli ei fywyd ac mae’n benderfynol y tro hwn - dydi hynny ddim am ddigwydd - ac mae’r nofel yn gorffen gyda hunanladdiad erchyll. Ydy – mae Anthony Horowitz yn ei ôl gyda champwaith arall. Er mor ddieithr yw’r byd hwn mewn nofelau Cymraeg, mae trosiad Grey Evans yn gwneud iddi lifo yn rhwydd ac yn gweddu iddi i’r dim. Fechgyn neu ferched yn eich harddegau, neu unrhyw un sydd eisiau tipyn o gynnwrf gwych – darllenwch hon!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820944888182,"sku":"9781855969605","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781855969605_f3c43295-c7f6-418e-a21a-a3ea52aeda70.jpg?v=1790362514","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/alecs-rider-3-traeth-sgerbwd-9781855969605","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}