{"product_id":"alecs-rider-2-pic-blanc-9781855969599","title":"Alecs Rider: 2. Pic Blanc","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Alecs Rider, yr archysbïwr yn ei arddegau, yn ei ôl. Mae Alecs Rider, pedair ar ddeg oed, yn ôl yn yr ysgol yn ceisio addasu i'w fywyd dwbl newydd, a gwaith cartref dwbl. Ond mae gan MI6 gynlluniau eraill ar ei gyfer. Gyda chymorth dim byd heblaw ID ffug, a chasgliad newydd o ddyfeisiau cuddgwych, rhaid i Alecs ei gael ei hun i mewn i'r Academi. Addas i ddarllenwyr 9-14 oed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAlecs Rider, the 14 year old boy recruited as a spy against his will is back at school, where he tries to adapt to his new double life, and to double homework. MI6 has other plans for him, and with the help of a fake ID and a collection of new camouflage devices, Alecs has to gain access to a boy's Academy in the French Alps. Suitable for 9-14 year old readers.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781855969599\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781855969599\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAlecs Rider: 2. Pic Blanc\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHorowitz, Anthony\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-09-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEvans, Grey\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e300 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e129 × 198 mm; depth 15 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMI6, chwalu cloeon, hedfan mewn hofrenyddion, codi cychod, crafangu craeniau – dyma ddiwrnod arferol o waith i Alecs Rider. Mae gan James Bond – 007 ei hun – gystadleuaeth! Yr ail yng nghyfres gyffrous Alecs Rider ydi Pic Blanc a dydi hi ddim yn siomi. Y tro hwn mae’r bachgen yn ei arddegau ynghlwm â dirgelwch llofruddiaeth, a llawer mwy na hynny. Mae’r llyfr yn dechrau gyda Mr Roscoe yn cael ei ladd gan y Bonheddwr – llofruddiaeth sydd yn ymddangos fel damwain ar y dechrau ond wedi i Mr Roscoe ddatgelu rhywbeth pwysig iawn i Blunt, yr un sydd wastad uwch ei ben ymhob perwyl, mae Alecs yn ei gael ei hun yng nghanol antur anferth. Ac mae’r antur hon yn mynd ag Alecs a ninnau i lecyn hynod amheus ym mynyddoedd yr Alpau. Yr hyn sydd yn effeithiol tu hwnt yn nofelau Horowitz yw’r cydbwysedd hwnnw rhwng byd bachgen 14 oed a byd o drosedd a dirgelwch sydd fel arfer i’w gweld mewn llyfrau a ffilmiau i oedolion. Yn wir, gwerthwyr cyffuriau yn llechu o gwmpas yr ysgol sydd yn dod ag Alecs i ganol y trybini ar y dechrau, ond mae crafangau Blunt yn cydio ac yn mynd ag ef o gynefindra’r ysgol. Ond am Alecs ‘dan ni’n sôn, ac roedd y bachgen yn gwybod na doedd diflastod ysgol ddim am barhau’n hir. Mae gwaith ysbïwr yn ei waed ac yn y nofel hon, mae’n rhaid iddo guddio tu ôl i hunaniaeth gudd er mwyn dod o hyd i’r drwg yn y caws. Er bod y nofel hon yn sefyll ar ei phen ei hun, mae’n rhaid dod i adnabod Alecs yn y llyfr cyntaf yn y gyfres er mwyn deall ei gefndir. Yn feistr ar ei grefft, mae nofelau Horowitz am apelio at unrhyw un yn ei arddegau sydd yn chwilio am rywfaint o adrenalin. Saethu gynnau, sgio ar lethrau oer yr Alps, gyrru gwyllt – ond y tro hwn mae Alecs wyneb yn wyneb â’r sefyllfa mwyaf peryglus ei fywyd – a fydd yn dal ei dir?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820944724342,"sku":"9781855969599","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781855969599.jpg?v=1790362512","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/alecs-rider-2-pic-blanc-9781855969599","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}