{"product_id":"agor-llenni-r-llygaid-9781785620393","title":"Agor Llenni'r Llygaid","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol gyntaf o gerddi i blant gan y bardd talentog, Aneirin Karadog. Cyhoeddir y gyfrol yn dilyn cyfnod Aneirin Karadog fel Bardd Plant Cymru, ac mae'n cynnwys casgliad o gerddi hwyliog a difyr ar gyfer cynulleidfa oed cynradd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe first collection of poems for children by the talented poet, Aneirin Karadog. The volume is published following his period as the Welsh Children's Poet, and comprises humorous and entertaining poems for primary school readers.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785620393\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785620393\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAgor Llenni'r Llygaid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eKaradog, Aneirin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-09-25\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHowells, Graham\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e165 × 240 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGaned Aneirin Karadog yn Llanelwy a mynychodd ysgolion cynradd Pontardawe a Phont Siôn Norton ym Mhontypridd cyn mynd ymlaen i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Aeth ymlaen i astudio Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen ac mae bellach yn byw ym Mhontyberem, Sir Gâr. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd yn 2005 a daeth i’r brig yng nghategori barddoniaeth gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013 am ei gyfrol O Annwn i Geltia yn 2013.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDychmyga petai dy nain yn ffrindiau ag Eminem. Dychmyga fod Dad yn ‘rhy’ bob dim. Dychmyga dref o drychfilod. Dyna hwyl! Dychymyg byw – does dim byd tebyg iddo, yn nag oes? Gall dy hudo o un lle i’r llall wrth i ti gyfarfod â chymeriadau lu ar y daith. Mae’r llyfr hwn yn llawn cerddi clyfar a choeglyd ac yn berwi o ryfeddodau o fyd natur, bywyd bob dydd a ffantasi. Ie, dyma’r dewin geiriau, Aneirin Karadog, yn agor drysau i fydoedd gwahanol trwy ei ddawn dweud drwy gyfrwng odl. Mae'n sôn am ddeffro yn y bore, dirgelwch y nos, am fod yn styc mewn car am oriau ac am gastell tywyll yr Hen Fampir Blin. Na, does dim diwedd ar y danteithion ar odl yma ac mae pob cerdd yn flas ar bethau da bywyd. Ac ambell dro, bydd y bardd yn petruso ynghylch pethau go gymhleth, fel y gwahaniaethau rhwng iaith yr Hwntws a’r Gogs, a rhywbeth na feddyliais i erioed amdano – pwy goblyn sy’n dod ag anrheg i Siôn Corn? Mae’r gyfres o gerddi yn un dda i’w chodi oddi ar y silff o dro i dro neu i’w darllen fel fflamiau’n ribidirês! Dyma gyfrol ddelfrydol hefyd i’w darllen cyn mynd i gysgu – mae’n sicr o sbarduno breuddwyd neu ddwy. A chofiwch am hon hefyd os ydych yn edrych am rywbeth i lenwi'r hosan Nadolig honno ...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820096786806,"sku":"9781785620393","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785620393_967f853a-2148-4f2c-bfdd-79f79347cb7f.jpg?v=1790354432","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/agor-llenni-r-llygaid-9781785620393","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}