{"product_id":"adar-o-r-unlliw-9781912173334","title":"Adar o'r Unlliw","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel ysgafn gan awdur newydd sy'n llawn hiwmor a chariad ond sy'n trafod bywyd teuluol heddiw gyda sensitifrwydd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA roller coaster of a novel by a new author which portrays the conflict of contemporary family life with humour and insight.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912173334\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912173334\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAdar o'r Unlliw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Catrin Lliar\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-08-11\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e256 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 200 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma nofel gyntaf Catrin Lliar Jones, ac mae’n sicr yn ddechrau da! Yma, cawn glywed hanes lliwgar Luned, y prif gymeriad, o’i safbwynt hi ei hun. Egyr y nofel trwy adrodd am y profiad o roi genedigaeth, a dilynir hynny gyda digwyddiadau yng nghyfnod nesaf bywyd Luned a’r bobl o’i chwmpas. Wrth i’r stori fynd rhagddi, cawn hefyd ein tynnu’n ôl i ddigwyddiadau yng ngorffennol Luned – digwyddiadau sydd wedi siapio ei phersonoliaeth a’i bydolwg. Yn groes i awydd Luned, daw Shoned, y ferch yn y gwely drws nesaf iddi yn yr ysbyty, yn rhan ganolog o’i stori hefyd, ac er mor annhebyg yw’r ddwy ar yr olwg gyntaf, amlygir mai adar o’r unlliw ydynt mewn gwirionedd. Mae bywyd Luned ymhell o fod yn syml, a’r gyfrol yn cynnwys clytwaith o linynnau storïol lliwgar. Mae llawer yn digwydd ym mywyd Luned – o roi genedigaeth i’w phlentyn cyntaf i fod yn fam i ddau blentyn o berthynas flaenorol; o ddarganfod ffrind annisgwyl yn Shoned, i ddarganfod gwirioneddau poenus am aelodau o’i theulu – does dim cyfle i ddiflasu wrth ddarllen y gyfrol hon. Yn ogystal â’r digwydd difyr, mae’r cymeriadau’n lliwgar tu hwnt hefyd, a’r modd y caiff y cymeriadau cryf eu portreadu yn elfen gref iawn o’r nofel. Elfen gref arall yw’r deialogau drwyddi draw – mae dawn yma i amlygu cymeriadau trwy eu sgwrsio, ac o gyflwyno’r deialogau’n llafar a realistig iawn. Mae llawer o ddoniolwch i’w gael yn y sgyrsiau hyn wrth i gymeriadau siarad yn blaen. Dyma elfen sy’n wir am y stori ei hun hefyd – mae'r siarad yn onest a'r stori'n cynnwys disgrifiadau graffig wrth gyflwyno profiadau sydd ymhell o fod yn rhai ysgafn. Ymdrinnir â phynciau dwys megis iselder a gorbryder, gan lwyddo i gadw’r hiwmor a’r ysgafnder yr un pryd. Mae’r nofel yn frith o ddisgrifiadau teimladwy, a llwydda’r awdur i dynnu’r darllenydd i ganol y stori o’i dechrau i’w diwedd. Er yr arddull anffurfiol, mae’r awdur yn trin geiriau’n dda, a gwneir defnydd cofiadwy o gymariaethau ac idiomau difyr. Er y trafodir pynciau pwysig nas gwelir yn aml mewn nofelau Cymraeg, mae’r arddull ysgafn yn sicrhau bod y nofel yn un hwyliog a doniol dros ben. Os ydych chi’n chwilio am gyfrol i ddianc iddi am ddiddanwch, mae hon yn sicr yn werth eich amser.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821141102966,"sku":"9781912173334","price":9.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912173334_a957bc5f-1e6d-40ff-8118-a38255ec2a6c.jpg?v=1790364914","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/adar-o-r-unlliw-9781912173334","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}