{"product_id":"ad-astra-9781848517738","title":"Ad Astra","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDilyniant i'r nofel Rara Avis . Mae'r nofel yn pontio dros hanner canrif, wrth i'r prif gymeriad fynd ar drywydd y bwganod a'i poenydiodd yn ystod ei phlentyndod, ei harddegau ac yn ystod ei bywyd fel myfyriwr. Tybed a fydd hi'n llwyddo i ddifa'r bwganod er mwyn cyrraedd at y sêr?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA novel which spans over fifty years, as the main character tries to lay to rest the ghosts of her past as well as reach for the stars. A sequel to Rara Avis .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848517738\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848517738\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAd Astra\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRhys, Manon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-11-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e256 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e127 × 192 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHeb amheuaeth, Manon Rhys yw un o sêr y nofel Gymraeg gyfoes ac mae Ad Astra yn ddilyniant i Rara Avis gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn rai blynyddoedd yn ôl, ac a oedd yn gyfrol eithriadol o boblogaidd. Oddi ar hynny mae’r awdur hefyd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Agorodd Rara Avis gyda choroni Elizabeth yr Ail yn frenhines. Dathliad trigain mlynedd ei theyrnasiad sy’n agor y nofel ddiweddaraf, ac yn ganolog i’r stori mae arwisgiad Charles Windsor yn 1969. Ymddengys nad oes dianc rhag y teulu brenhinol na threigl amser. Branwen Dyddgu Roberts yw’r prif gymeriad yn y nofel hon eto. Adroddir ei helyntion yn y Cwm Grammar School for Girls (hanes a gofnodir yn bennaf ar ffurf dyddiadur), cyn symud i Goleg Prifysgol Aberystwyth ac yna ymlaen i’n dyddiau ni, a Branwen bellach yn awdur o fri yn byw yn Iwerddon. Ar un olwg byddem yn disgwyl nofel lawn cyffro a rhamant gan ei bod wedi ei lleoli (yn rhannol o leiaf) yng Nghymru’r chwedegau. Ond mae bwganod o’r gorffennol yn tarfu ar yr ymgyrchu a’r protestio. Yn gefndir i’r cyfan ceir ambell adlais o gerdd Prosser Rhys, 'Cymru'. Dywed y gerdd hon lawer am gefndir Branwen Dyddgu Roberts ei hun. Fel ei rhieni, mae hi'n gyw o dras sy’n perthyn i’r ‘cwmni bychan’ hwnnw o genedlaetholwyr sy’n credu yng Nghymru a’i dyfodol. Yn wir, mae Prifathro’r coleg yn Aberystwyth, mewn sgwrs gyda Branwen, yn cyfeirio’n edmygus at waith ei rhieni dros eu gwlad. Gwneir hyn gan bobl eraill yn y nofel hefyd, ond gellir tybio bod Branwen Dyddgu Roberts yn dioddef o’r syndrom ‘bod yn ferch i rywun enwog’. Dyna un o’r bwganod yn ei bywyd ac mae’n achosi pryder iddi. Os yw ei mam yn wraig weddw uchel ei pharch ymysg academyddion Aberystwyth, yn ôl yn y Rhondda cyfeirir ati fel 'the mad white lady' o alcoholig sy’n byw mewn tŷ tywyll. Mae yna fwganod eraill ym mro ei magwraeth. Mae marwolaeth Jonathan Alan Meades, fu farw yn wyth oed pan oedd hi'n blentyn, yn dal i bwyso ar ei meddwl. Ymgais Branwen i fynd i’r afael â’r ellyllon hyn yw un o brif themâu’r nofel. Yn ystod ei chyfnod yn y coleg yn Aber mae Branwen yn ymroi i ymgyrchu dros neuadd breswyl Gymraeg ac yn erbyn arhosiad Charles Windsor yn Neuadd Pantycelyn. Ond mae mân gecru, bwlio a hunanoldeb ambell ymgyrchydd yn tynnu llawer o’r sglein oddi ar y cyfnod gwleidyddol cyffrous hwn. Yn wir, oherwydd diflastod a phrofedigaethau teuluol mae’r prif gymeriad yn gadael y coleg cyn gorffen ei chwrs. Yng ngherdd Prosser Rhys ceir y cwpled: ‘Mi glywais awydd gynnau Am godi cefn o’m gwlad ...’ A dyma'n union beth a wna Branwen Dyddgu yn y nofel hon. Ond dychwela i Gymru ymhen deugain mlynedd i wynebu ei bwganod, a hithau bellach yn awdur enwog a chyfoethog iawn. Thema arall yw treigl amser. Sylwer ar y dyfyniad gan R. Williams Parry sydd ar flaen y nofel: ‘Ow! Fory-a-ddilyn-Heddiw-a-ddilyn-ddoe: Pa bryd y pery echelydd chwil y sioe?’ Pwysleisir yr ymdeimlad o dreigl amser wrth i ni gael ein hunain yn symud yn ôl ac ymlaen o ddyddiau’r ysgol uwchradd i’r blynyddoedd yn y coleg ac yna i’r cyfnod presennol. Er hynny, rhaid dweud nad yw’r gwahanol elfennau yn y stori, ynghyd â'r symud yn ôl ac ymlaen o’r naill gyfnod i’r llall, fel pe baent yn asio yn gwbl lwyddiannus bob tro. Hefyd, os ydym am ymgyfarwyddo'n llawn â’r bwganod hynny sy’n poeni Branwen rhaid ailddarllen Rara Avis . Cofier bod hynny yn rhywbeth gwerth ei wneud beth bynnag. Roedd y chwedegau'n gyfnod cyffrous iawn yn hanes Cymru a’r byd ac fe fydd unrhyw un sydd â diddordeb yn y degawd hwnnw wrth ei fodd gyda’r nofel hon. Yn yr un modd mae hon yn nofel bwysig os ydym am ddeall a gwerthfawrogi profiadau'r Cymry Cymraeg hynny sy’n dod o’r Cymoedd. Mae’r Rhondda yn gymaint rhan o brofiad y Cymro Cymraeg â Dyffryn Nantlle!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820871946614,"sku":"9781848517738","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848517738.jpg?v=1790361572","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ad-astra-9781848517738","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}