{"product_id":"a-oes-heddwas-9781845275532","title":"A Oes Heddwas?","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel dditectif ysgafn ddychanol wedi'i lleoli ar Faes y Brifwyl ym Meifod.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA light-hearted satirical novel set at the National Eisteddfod Maes at Meifod.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845275532\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845275532\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eA Oes Heddwas?\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAlexander, Myfanwy\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-08-05\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e254 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e124 × 182 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFe fydda i’n edrych ar eisteddfodwyr 2016 mewn ffordd wahanol ar ôl darllen A Oes Heddwas? Efallai nad yw Daf Dafis yn hapus bod ei wyliau wedi eu canslo, ond yn bendant mae angen pob heddwas sydd ar gael i blismona Eisteddfod Meifod 2015. Yn ogystal â bwrlwm arferol y canu, y barddoni a’r cymdeithasu mae yna drais, hunanladdiad, cyffuriau, llofruddio, a llawer o bobl anhapus iawn. Cael ei yrru gan deimlad o ddyletswydd, gan yr ysfa i wneud popeth yn iawn i bawb, y mae Daf. Mae e’n blismon trylwyr a theg, ac yn benderfynol o ddal y drwgweithredwyr, ond y tu hwnt i’r gwaith dyw pethau ddim mor hawdd. Mae bywyd personol Daf yn dipyn o lanast. A dweud y gwir, dwi ddim yn meddwl bod yr un o gymeriadau’r nofel yn cael amser cwbl rwydd. Mae gan bawb eu cyfrinachau a’u trafferthion, a does ’na ddim pall ar y datguddiadau wrth i ni garlamu o un digwyddiad neu gyfaddefiad i’r llall. Ond nid nofel lle mae pob sefyllfa’n ddu a gwyn yw hon. Mae modd cydymdeimlo â’r troseddwyr, digio wrth Daf am ei ymddygiad hunanol, a hyd yn oed deimlo mymryn o dosturi – wel, unwaith o leiaf – tuag at Falmai, y fam Gymreig fwyaf oeraidd ohonyn nhw i gyd. Mae hiwmor Myfanwy Alexander yn allweddol i’r mwynhad a geir wrth ddarllen. Ac mae’r ffaith fod y lleoliad yn gyfarwydd, ac mai dim ond ychydig fisoedd sydd ers Eisteddfod Meifod, yn dod ag elfen o ddyfalu difyr i’r nofel. Ceir elfen o garicatur i nifer o’r cymeriadau, ac o or-wneud wrth eu disgrifio, ond mae yna hefyd bethau bach sy’n gyfarwydd i’r rhai sydd wedi bod yn agos at faes Eisteddfod – elfen orgystadleuol ambell gymeriad, Cymreictod ychydig yn snobyddlyd ambell un arall a thueddiad aml un i dreulio’r wythnos gyfan wrth y bar. Dyw e ddim wastad yn ddarllen cyfforddus, yn enwedig wrth i rywun drio dyfalu pa fath o eisteddfodwr ydyn nhw yng ngolwg eraill. Efallai fod y diweddglo ychydig yn rhy sydyn i fi. Wedi holl gyfoeth y cymeriadau a’r plot, mae’r troseddau tua'r diwedd yn cael eu datrys o fewn ychydig frawddegau. Ond mae’r nofel yn gorffen heb roi atebion ynglŷn â bywydau personol nifer o’r cymeriadau. Mae hyn yn fwriadol, mae’n debyg, a fuaswn i ddim yn disgwyl i Myfanwy Alexander roi diweddglo hapus, simplistig i ni. Ond buaswn i wedi hoffi cael gwybod beth ddigwyddodd nesa i amryw o’r cymeriadau – ac mae hyn yn arwydd o'r mwynhad a gefais wrth ddarllen amdanyn nhw.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820649156982,"sku":"9781845275532","price":8.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845275532.jpg?v=1790359060","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/a-oes-heddwas-9781845275532","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}