{"product_id":"100-cymru-y-mynyddoedd-a-fi-y-mynyddoedd-a-fi-9781800992696","title":"100 Cymru - Y Mynyddoedd a Fi — Y Mynyddoedd a Fi","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma hanes Dewi Prysor yn cerdded 100 copa uchaf Cymru. Yn ogystal â chyfarwyddiadau a disgrifiadau taith, cyfeirir at hanes lleol, enwau mynyddoedd, rhennir atgofion, dyfynnir caneuon a cherddi a cheir lluniau anhygoel sy'n cynnwys ambell i olygfa annisgwyl a welwyd ar y topiau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe story of Dewi Prysor's journey over Wales's one hundred highest peaks was inspired by Cant Cymru , Dafydd Andrews (Y Lolfa, 1998). Together with guidance and descriptions for each walk, the volume includes notes on local history, mountain names and memories, and also comprises quotations from songs and poems and stunning images which are unexpected, strange and humorous.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800992696\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800992696\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e100 Cymru - Y Mynyddoedd a Fi — Y Mynyddoedd a Fi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Mynyddoedd a Fi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePrysor, Dewi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2022-06-20\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e264 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e248 × 218 mm; depth 21 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau (yn Gymraeg) | EN: Travel, Tourism, Guide Books (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau Cerdded (yn Gymraeg) | EN: Walking Guides (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMab y mynydd ydi Dewi Prysor, ac yn y mynyddoedd mae ei le. Yn byw ac yn bod yn crwydro'r uchelfannau, mae'n gerddwr brwd yn ei ardal enedigol ym Meirionnydd ac yn wir, ymhob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth am y mynyddoedd, y llwybrau a'r creigiau; yn ogystal â gwybodaeth am darddiad enwau, a hanesion am y bobl a fu'n byw a gweithio ar y mynyddoedd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e“Mae cyrraedd copa mynydd wastad yn deimlad gwefreiddiol!” ebycha Dewi Prysor, yr awdur, ac mae ei ffotograffau hynod o brydferth, y cyfoeth barddoniaeth sy'n britho'r gyfrol, a'r naratif egnïol, ddiddorol a gonest, agos atoch, yn cludo'r darllenydd yn syth o'r gadair freichiau i fyd angerdd a chyffro copaon mynyddoedd Cymru. Ysbrydolwyd y gyfrol gan lyfr Dafydd Andrews, Cant Cymru (1998), am gant mynydd uchaf Cymru, o'r Wyddfa i fynydd Cyrniau Nod, y Berwyn. Mae rhestr ohonynt yn ôl eu huchder yng nghefn y ddau lyfr. Heriodd awdur y llyfr diweddaraf ei hun i ddringo'r cant rhwng 2015 a 2017. Dyma ogwydd gwreiddiol, cynhenid, gan enaid a fagwyd yn agos at lethrau'r cant. Yn ei ragair, gosoda'r awdur ei gyd-destun trwy gyffwrdd â phwysigrwydd gwreiddiau'r tylwyth i bobl y mynydd wrth iddynt enwi plant ar ôl mynydd, cwm, afon neu lyn y fro o ble y daethant. Mae'n trafod y berthynas seicolegol rhwng pobl a'r mynydd a hen arferion uchelfannau sanctaidd. Sut mae cof a pharchedig ofn wedi treiddio i'r isymwybod, a'r elfen ysbrydol, efallai, hyd at ein genynnau ni os cyfrifwn ein hunain yn bobl y mynydd. Cydnabyddir hefyd berthynas chwedlau, llên gwerin, daearyddiaeth, a bywyd gwyllt â'r mynyddoedd. Mae pob pennod yn trafod cadwyn o fynyddoedd; Aran, Arenig, Bannau Brycheiniog, Bannau Sir Gâr, Berwyn, Cader idris, Carneddau, Glyderau, Moelwynion, Nantlle a Beddgelert, Pumlumon, Rhinogydd, Yr Wyddfa a'i chriw, a Mynydd Du Gwent. Am bob cadwyn o fynyddoedd, ac ambell gopa cyfagos, ceir trafodaeth fer ddisgrifiadol, sydd weithiau'n hanesyddol neu'n wleidyddol. Weithiau olrheinir ystyr neu berthynas Geltaidd enwau'r copaon, ac yna cawn ambell stori deuluol bersonol neu ddiddanol, gyda geiriau hwyliog yr awdur yn llifo'n barablus gyfforddus. Dengys grid disgrifiadol bob taith fynydd: uchder y copa dan sylw mewn metrau a throedfeddi, rhifau mapiau Arolwg Ordnans yr ardal, cyfeirnod grid a disgrifiad o'r man cychwyn, pellter y daith mewn milltiroedd a chilometrau, hyd y daith mewn oriau, mesur ymdrech, ac yna ddisgrifiad manylach o'r daith ei hun yn gwau trwy dudalennau o ffotograffau panoramaidd wirioneddol drawiadol, heb neb arall i'w weld ar y mynydd, a'r tywydd bob amser yn baradwysaidd o braf. Wrth gwrs, nid llyfr i dywys rhywun yn llythrennol i fyny'r mynydd mo hwn – mae ei bwysau yn gwarafun hynny, yn un peth! Ymhlith cynghorion 'Gair i gall', awgrymir mynd â map a chwmpawd i fyny'r mynyddoedd. Byddai cynnwys mapiau o'r teithiau a ddisgrifir wedi ategu profiad y ddarllenydd hefyd, petai hynny ond wrth baratoi taith, neu hel atgofion, neu freuddwydio. Caiff y beirdd dywys y darllenydd felly, a melys iawn yw darllen hen benillion Hedd Wyn, Gwaenfab, Cynddelw, Ioan Brothen, Eben Fardd, Eifion Wyn, T H Parry-Williams ac R. Williams Parry ochr yn ochr â chyfansoddiadau treiddgar yr awdur ei hun. Dyma lyfr i ddathlu camp anhygoel yr awdur a ddringodd y can mynydd, yn bennaf ar ei ben ei hun, ac a ddewisodd rannu ei brofiad. Tybed beth fydd y llyfr hwn yn ei ysbrydoli wrth i chi droi ato?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820301685110,"sku":"9781800992696","price":19.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800992696_d83eee47-11ce-40d2-9e72-fffe94f7bcb2.jpg?v=1790355173","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/100-cymru-y-mynyddoedd-a-fi-y-mynyddoedd-a-fi-9781800992696","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}